Mae endometriosis yn salwch sy’n gallu effeithio ar dy fywyd ond dydy hyn ddim yn golygu ei fod yn cael ei alw’n anabledd bob tro.

Os wyt ti’n cael symptomau gwael iawn sy’n golygu ei bod hi’n anodd i ti wneud pethau normal fel mynd i’r ysgol neu’r gwaith yna galli di gael help hyd yn oed os nad wyt ti’n anabl.

Cydraddoldeb

Mae cydraddoldeb yn golygu dylai pawb gael yr un cyfle i wneud y pethau maen nhw eisiau eu gwneud. 

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gyfraith gan y llywodraeth i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu trin yn deg. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd ag endometriosis neu symptomau gwael endometriosis.

Mae llawer o resymau pam allai pobl gael eu trin yn wahanol neu’n annheg. Efallai oherwydd eu bod nhw’n:

  • Ddyn neu’n fenyw
  • Pobl o wahanol hil
  • Pobl anabl
  • Pobl â gwahanol grefydd neu gred 
  • Pobl o oedran gwahanol
  • Pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a syth 
  • Pobl sydd wedi newid eu rhywedd.

Mae gwybodaeth hawdd ei darllen am y Ddeddf Cydraddoldeb ar wefan y llywodraeth. Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf Cydraddoldeb yma.