Os oes gen ti salwch fel endometriosis weithiau galli di deimlo’n unig iawn.

Mae’n gallu bod yn anodd cael pobl i ddeall sut beth ydy bod ag endometriosis neu symptomau endometriosis fel mislif gwael

Mae rhai pobl yn teimlo embaras wrth siarad am y mislif. 

Mae rhai pobl yn meddwl bod mislif gwael yn normal ac mae hyn yn gallu ei gwneud hi’n fwy anodd byth i dy ffrindiau a dy deulu ddeall sut rwyt ti’n teimlo.

Rydyn ni wedi creu rhestr o wefannau galli di eu dangos i dy ffrindiau a dy deulu.

Bydd edrych ar y gwefannau yma’n eu helpu nhw i ddeall sut beth ydy bod ag endometriosis neu symptomau endometriosis fel mislif gwael.

Efallai bydd gwybodaeth ar y gwefannau yma i dy helpu di i ddysgu mwy am endometriosis.

GIG 111 Cymru yw’r rhan o GIG Cymru sydd â gwybodaeth am endometriosis

Mae Endometriosis UK yn wefan sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am endometriosis

Mae Endometriosis.org yn wefan sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am endometriosis

Mae Triniaeth Deg i Ferched Cymru yn wefan i fenywod yng Nghymru sy’n helpu Merched â chyflyrau iechyd i gael eu trin yn deg

Mae DrawingOut: Invisible Diseases yn wefan sy’n defnyddio lluniadau yn lle geiriau i egluro sut deimlad yw cael afiechyd na ellir ei weld ar y tu allan.