Datganiad Cynhwysiant Endometriosis Cymru

Mae endometriosis yn digwydd o ganlyniad i feinwe penodol yn y corff, a dim ond pobl a roddwyd yn y categori benywaidd adeg eu geni sy’n cynhyrchu hwn. Am y rheswm yma, mae’r ymchwil, y derminoleg a’r drafodaeth wedi canolbwyntio ar bobl sy’n arddel hunaniaeth fel menyw neu ferch, a ddim cymaint ar bobl sy’n arddel hunaniaeth dyn traws neu fachgen traws.

Serch hynny, rydyn ni’n defnyddio’r ymchwil yma a’i therminoleg ar gyfer cywirdeb dogfennol. Mae’r ymchwil, y derminoleg a’r drafodaeth wedi canolbwyntio’n bennaf ar fenywod a merched cydryweddol (cis), a llai ar unigolion traws. Yn yr un modd, mae’r sylfaen ymchwil yn edrych yn bennaf ar bobl nad ydyn nhw’n anabl a phoblogaethau iau.

Rydyn ni’n cydnabod, ac wedi ceisio cynrychioli y ffaith bod llawer mwy o amrywiaeth yn y bobl niferus sy’n byw ag endometriosis. Wrth i ymchwil newydd ddod i’r amlwg mewn poblogaethau newydd, bydd yn cael ei hymgorffori i’n gwefan a’n deunyddiau addysgol.