Gwybodaeth i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (SRT)

Mae Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yn declyn sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth y gall cleifion ei ddefnyddio i dracio symptomau allweddol endometriosis fel y mae canllawiau NICE yn eu diffinio.  

Mae’r teclyn ar gyfer pobl sy’n profi symptomau maen nhw’n tybio sy’n deillio o endometriosis. 

Mae’r teclyn ar gael fel copi caled neu ar ffurf gwefan. I ddechrau, mae cleifion yn llenwi’r cwestiynau hanes meddygol a ffactorau risg, ac yna’n defnyddio’r teclyn bob dydd i dracio 5 symptom endometriosis ar sail canllawiau NICE. Wrth ddefnyddio’r teclyn, bydd cleifion yn adrodd lefel y poen ac effaith weithredol pob symptom maen nhw’n ei brofi dros gyfnod o ddau fis.  

Drwy ddefnyddio’r teclyn, mae cleifion yn gallu creu adroddiad cryno un dudalen i’w rannu gyda’u meddyg, er mwyn hwyluso sgwrs am y symptomau yma. Cofiwch, nid yw’r Teclyn Adrodd am Symptomau yn rhoi diagnosis o endometriosis wrth ei hunan. Mae’n bwysig i ddefnyddwyr y teclyn wybod hyn, ac mae’n rhaid iddyn nhw drafod y canlyniadau gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.  

Gellir defnyddio’r teclyn hefyd i dracio pa mor effeithiol yw triniaeth ar gyfer symptomau endometriosis dros amser. 

Beth yw pwrpas Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru? 

Nod y Teclyn Adrodd am Symptomau yw lleihau’r oedi cyn cael diagnosis o endometriosis drwy brofiadau cadarnhaol ac effeithlon ym maes gofal iechyd ar gyfer cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ar hyn o bryd yng Nghymru, ar gyfartaledd, mae’n cymryd 10 mlynedd neu 26 apwyntiad i gael diagnosis o endometriosis (Endometriosis UK, 2024; Adroddiad Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru, 2018).  Mae hyn yn hirach na rhannau eraill o wledydd Prydain, ac mae’n golygu bod pobl sydd ag endometriosis yn byw gyda symptomau poenus ac anodd am flynyddoedd lawer cyn cael triniaeth neu gefnogaeth.  

Mae’r teclyn wedi’i ddylunio i leihau oedi cyn cael diagnosis endometriosis drwy wneud y canlynol: 

  • Grymuso unigolion sy’n profi symptomau o endometriosis posib i geisio gofal iechyd.  
  • Rhannu gwybodaeth allweddol am symptomau endometriosis y claf gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn seiliedig ar ganllawiau endometriosis NICE ac effaith y symptomau yma sydd wedi’i gofnodi bob dydd dros ddau fis. 
  • Codi amheuaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o endometriosis os yw’n briodol. Gallai’r teclyn hefyd ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a defnyddwyr os nad yw’r symptomau’n gyson ag endometriosis.  
  • Rhannu gwybodaeth am y patrwm mae symptomau’n ei ddilyn dros amser e.e. ar draws y cylch mislif. 
  • Hwyluso sgyrsiau a phrofiadau cadarnhaol ac adeiladol o ofal iechyd ar gyfer y cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

Pwy greodd Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru? 

Cafodd y Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis ei greu gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, unigolion â phrofiad byw o endometriosis, eiriolwyr cyhoeddus dros endometriosis, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, ac arbenigwyr dylunio digidol, Proper Design.  

Wrth adeiladu’r teclyn, fe ymgynghoron ni gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n trin endometriosis, gan gynnwys meddygon teulu, gynaecolegwyr, nyrsys endometriosis arbenigol, clinigwyr iechyd rhywiol, ac aelodau o’r GIG sydd ag arbenigedd mewn gofal iechyd digidol a dylunio apiau.  

Darparwyd cefnogaeth a chyllid ychwanegol ar gyfer y teclyn gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, a’r Cyngor Ymchwil Meddygol. 

Sut galla i ddefnyddio Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru gyda fy nghlaf? 

Gallwch gyfeirio’ch claf at y teclyn. Mae’r wefan yma’n cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r teclyn. 

Rydyn ni’n argymell bod cleifion yn tracio eu symptomau am ddau fis o leiaf. Wedi hyn, gallan nhw greu adroddiad i’w rannu gyda chi sy’n crynhoi eu ffactorau risg, hanes meddygol perthnasol, a natur a phatrwm eu symptomau dros amser.  

I gael rhagor o wybodaeth am endometriosis

  • Darllenwch Ganllawiau Endometriosis NICE
  • Os hoffech ragor o wybodaeth am lwybrau iechyd ar gyfer endometriosis mewn gofal sylfaenol, ewch i’r dudalen Llwybrau Iechyd Endometriosis yn eich bwrdd iechyd.  

Oes gennych chi gwestiynau neu adborth?  

Rydyn ni’n bwriadu parhau i wella’r teclyn a bydden ni’n falch o glywed gennych chi.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Thîm Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru drwy cfrr@cardiff.ac.uk.