1. Tybed oes gen i endometriosis?

    Mae cael diagnosis o endometriosis yn gallu bod yn brofiad rhwystredig. Mae’r cyflwr ei hunan yn ymddangos yn wahanol mewn cleifion gwahanol, ac mae modd camgymryd y symptomau am gyflyrau eraill.

  2. Beth yw’r opsiynau trin?

    Ar hyn o bryd, does dim iachâd ar gyfer endometriosis, ond mae ystod o driniaethau ar gael i helpu i reoli’r symptomau a lleihau effaith y cyflwr ar fywyd unigolyn.