Pam ei bod hi’n cymryd mor hir i gael diagnosis o endometriosis?
Mae endometriosis yn effeithio ar un ym mhob deg menyw, ond gall gymryd amser hir i gael diagnosis. Mae tri rheswm am yr oedi hwnnw.
Y rhesymau mwyaf cyffredin am oedi mewn diagnosis yw:
- credu bod eich symptomau’n normal
- camgymryd eich symptomau am gyflwr arall
- cymryd meddyginiaeth sy’n rheoli eich symptomau
“Mae’n normal”
Gall oedi ddigwydd os ydych chi neu eich meddyg yn credu nad yw eich symptomau’n wahanol i ‘boen mislif arferol’. Efallai byddai’r syniad yma’n dod gan ffrindiau neu aelodau teulu, yn enwedig os oes ganddyn nhw endometriosis heb ddiagnosis. Nid yw’n normal profi poen sy’n effeithio ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd.
“Rhywbeth Arall yw e”
Yn aml, mae symptomau endometriosis yn niferus ac yn amrywiol, a chânt eu camgymryd am restr hir o gyflyrau eraill yn aml. Mae’r oedi hiraf cyn cael diagnosis o ganlyniad i atgyfeiriadau at arbenigwr nad yw’n gynaecolegydd neu’n arbenigwr endometriosis.
“Mae’n Cael ei Reoli”
Bydd cymryd meddyginiaeth poen, y bilsen, neu wrthiselyddion yn gallu lleihau eich symptomau, hyd yn oed os ydych chi’n eu cymryd nhw am resymau eraill. Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach cael diagnosis. Dydy rheoli symptomau ddim yr un peth â’r clefyd yn gwella, ond mae llawer o bobl yn penderfynu bod yn well ganddyn nhw reoli symptomau gyda meddyginiaeth na chael llawdriniaeth. Darllenwch fwy am sut caiff endometriosis ei drin.