Cyn eich apwyntiad

Mae’n bwysig paratoi ar gyfer apwyntiadau gyda’ch meddyg neu arbenigwr. Mae llawer o bobl ag endometriosis yn teimlo bod paratoi wedi’u helpu nhw i beidio â chynhyrfu a chanolbwyntio ar ddisgrifio’r symptomau a’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Dyma gyngor ar baratoi am apwyntiadau gan gleifion endometriosis:

  •  Gwnewch eich ymchwil. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am symptomau endometriosis, a’r llwybr diagnosis. Gallwch hefyd ymgynghori â sefydliadau fel Endometriosis UK neu Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW).
  • Ysgrifennwch restr o’r cwestiynau sydd gennych, ac unrhyw beth rydych chi’n ansicr yn ei gylch, ac ewch â’r rhestr gyda chi i’ch apwyntiad.
  • Defnyddiwch Draciwr Symptomau Endometriosis Cymru i’ch helpu chi i gofnodi eich symptomau.

Mae’n syniad da cofnodi eich symptomau a’u heffaith ar eich bywyd bob dydd. A yw’r symptomau yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau arferol fel mynd i’r ysgol neu i’r gwaith? Mae hefyd yn hollol ddealladwy os yw eich symptomau yn effeithio ar eich iechyd meddwl. Mae llawer o bobl sydd ag endometriosis yn adrodd eu bod nhw’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl, ynghyd â’u hiechyd corfforol, a hynny’n aml gan fod y boen yn gallu eu hatal rhag gwneud y pethau mae angen neu eisiau eu gwneud arnyn nhw. Gallwch ddarllen rhagor am endometriosis a iechyd meddwl yma.

Yn ystod eich apwyntiad

  •  Mae’n syniad da gwneud nodiadau. Gallwch fynd â llyfr nodiadau a beiro gyda chi, neu gofynnwch os gallwch recordio’r sgwrs ar ddictaffôn neu ar eich ffôn. Bydd hyn yn eich galluogi i ystyried yr hyn drafodwyd yn eich amser eich hunan, a sylwi ar bethau nad oedden nhw’n glir yn ystod yr apwyntiad. Gallwch wneud apwyntiad dilynol os hoffech chi drafod y pwyntiau yma eto.
  • Os gallwch chi, ewch â ffrind, aelod o’r teulu, neu eiriolwr gyda chi i’ch cefnogi ac i’ch helpu chi os byddwch chi’n mynd yn sownd neu’n ofidus. Gallech ofyn iddyn nhw wneud nodiadau yn ystod yr apwyntiad os gallan nhw.
  • Ceisiwch gadw dyddiadur symptomau yn y cyfnod cyn eich apwyntiad. Gallwch wneud hyn mewn calendr neu ddyddiadur, neu ar ap tracio’r mislif ar eich ffôn. Bydd hyn yn eich helpu chi a’ch ymgynghorydd i nodi patrymau yn eich symptomau, sydd o gymorth o ran gwneud diagnosis o broblemau. Gallwch hefyd ddefnyddio Traciwr Symptomau Endometriosis Cymru. Ewch â hwn gyda chi pan fyddwch chi’n gweld eich ymgynghorydd.

Beth os nad yw’r meddyg yn credu mai endometriosis yw’r broblem?

Yn hanesyddol, mae wedi cymryd amser hir i gael diagnosis o endometriosis. Mae tri phrif reswm dros oedi mewn diagnosis:

  • “Mae’n Normal”
    Os yw eich symptomau’n cael eu camgymryd am ‘boenau mislif arferol’ gennych chi, eich teulu, neu eich meddyg
  • “Rhywbeth Arall yw e”
    Yn aml, caiff symptomau endometriosis eu camgymryd am restr hir o gyflyrau eraill. Mae’r oedi hiraf cyn cael diagnosis o ganlyniad i atgyfeiriadau at arbenigwr nad ydynt yn gynaecolegydd neu’n arbenigwr endometriosis.
  • “Mae’n Cael ei Reoli”
    Bydd cymryd meddyginiaeth poen, y bilsen, neu wrth-iselyddion yn lleihau eich symptomau, hyd yn oed os ydych chi’n eu cymryd nhw am resymau eraill. Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach cael diagnosis pendant.

Wrth gwrs, mae’n bosib nad oes gennych chi endometriosis, ond os nad ydych chi’n fodlon gyda chasgliad eich meddyg, mae gennych hawl i weld meddyg gwahanol. Bydd gan y rhan fwyaf o feddygfeydd feddyg sy’n arbenigo mewn iechyd menywod, felly peidiwch â bod ofn gofyn i’r derbynnydd neu reolwr y feddygfa drefnu apwyntiad gyda nhw. Os nad yw’r opsiwn yma ar gael, gallech ofyn i’ch meddyg edrych ar y Pecyn Cymorth Llesiant Mislif a grëwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu ac Endometriosis UK, sy’n cynnwys adran arbennig ar endometriosis ac a ddylai helpu eich meddyg i benderfynu ar y camau nesaf gyda chi.