Er ei bod yn bosibl gweld effeithiau endometriosis ar rai sganiau (e.e. uwchsain neu MRI), bydd yn dibynnu ar y math o glefyd a’i leoliad, ac ar arbenigedd y person sy’n edrych ar y sgan hefyd.

Er enghraifft, mae rhai sganiau’n gallu dangos endometriomâu neu ‘systiau siocled’ ar yr ofarïau, sydd fel arfer yn arwydd y gallai endometriosis fod ar berson.

Os oes celloedd adlynol sy’n ddigon trwchus a dwys i dynnu organau o’u lle neu i’w ‘cuddio’, efallai byddai’r person sy’n gwneud y sgan yn amau bod endometriosis oherwydd safle’r organau hynny.

Weithiau, mae darnau dyfnach o endometriosis yn gallu ymddangos ar sgan MRI ond does dim sicrwydd. Mae endometriosis yn gymhleth, ac mae’n gallu ymddangos mewn llawer o ffyrdd a lleoliadau gwahanol yn y corff, fel ei bod hi’n anodd gwneud diagnosis. Hefyd mae angen arbenigedd arbenigwr i allu adnabod endometriosis a chelloedd adlynol ar sganiau.

Dim ond oherwydd bod sgan yn ‘glir’, dydy hynny ddim yn golygu nad oes endometriosis yno. Yr unig ffordd o fod yn siŵr yw drwy laparosgopi diagnostig. Darllenwch ragor am hyn ar ein tudalen am y llwybr diagnosis.