Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru
Er mwyn helpu meddygon i ddeall eich symptomau’n well ac i nodi rhesymau posib amdanyn nhw, mae angen gwybodaeth benodol gennych chi. Mae hyn yn cynnwys manylion ynghylch natur eich symptomau a phryd rydych chi’n eu profi.
Cafodd Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru ei gyd-ddylunio gyda chleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i’ch helpu i dracio eich symptomau a’ch hanes triniaeth, er mwyn i chi fod yn barod i gyfleu’r wybodaeth bwysig i’ch meddyg.
Mae’r teclyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
I ddefynyddio fersiwn gwefan Teclyn Adrodd an Symptomau Endometriosis Cymru, cliciwch yma
I lawrlwytho copi caled o’r traciwr, cliciwch yma
Pwy ddylai ddefnyddio Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru?
- Mae Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru ar gyfer unrhyw un sy’n profi symptomau a allai fod yn endometriosis ac a hoffai siarad gyda’u meddyg am eu symptomau.
- Gall pobl sydd eisoes wedi cael diagnosis o endometriosis hefyd ddefnyddio’r teclyn i dracio eu symptomau dros amser, er enghraifft, i weld os yw triniaeth newydd yn helpu ai peidio, neu os oes rhywbeth wedi newid.
Pam ddylwn i ddefnyddio Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru?
Gall weithiau fod yn anodd cyfathrebu am symptomau gynaecolegol a phelfig mewn ffordd sy’n helpu meddygon i ddeall sut mae’r symptomau yma’n effeithio arnoch chi ac mewn ffordd sy’n eich helpu chi i benderfynu ar y camau nesaf gyda’ch gilydd.
Mae’r teclyn yma’n ceisio symleiddio’r broses yma.
Yn ystod eich apwyntiadau am symptomau gynaecolegol a phelfig, bydd eich meddyg eisiau canfod:
- Pa fath o symptomau sydd gennych chi. Er enghraifft, ydych chi’n profi poen pelfig, poen mislif, symudiadau coluddyn poenus?
- Pa mor aml mae’r symptomau’n digwydd. Er enghraifft, a yw’r symptomau’n digwydd yn aml neu’n achlysurol?
- A yw’r symptomau’n dilyn patrwm penodol sy’n ailadrodd? Er enghraifft, a yw eich symptomau’n digwydd yn fuan cyn neu ar ôl eich mislif?
- Faint o boen ydych chi’n ei brofi ac a yw’r boen yn ei gwneud hi’n anodd i chi wneud eich gweithgareddau dyddiol. Er enghraifft, a yw eich symptomau’n ei gwneud hi’n anodd i chi godi, meddwl, mynd i’r gwaith neu’r ysgol?
- Efallai bydd cwestiynau eraill am eich hanes meddygol a theuluol o symptomau a chyflyrau iechyd eraill.
Er mwyn casglu gwybodaeth am eich symptomau, yn aml bydd meddygon yn gofyn i chi gadw dyddiadur o symptomau. Caiff hyn ei alw’n ‘tracio symptomau’. Mae tracio symptomau’n golygu casglu gwybodaeth am eich symptomau bob dydd, fel arfer am 2 i 3 mis.
Mae llawer o ffyrdd o dracio ac adrodd am symptomau, ond nid yw pob teclyn wedi’i ddylunio i gasglu gwybodaeth am symptomau a allai fod yn endometriosis mewn ffordd sy’n ddefnyddiol i feddygon.
Mae rhai teclynnau tracio symptomau wedi’u creu i ddeall symptomau mislif neu gynaecolegol. Er y gallai’r teclynnau yma fod yn ddefnyddiol gan eu bod nhw’n caniatáu i chi gofnodi eich holl symptomau mewn un lle, yn aml maen nhw’n gofyn gormod o gwestiynau neu dydyn nhw ddim yn gofyn y cwestiynau cywir i helpu eich trafodaeth gyda meddyg am symptomau a allai fod yn endometriosis. Efallai bydd teclynnau tracio symptomau eraill wedi’u dylunio ar gyfer cylchoedd ffrwythlondeb, er enghraifft i’ch helpu i wybod pryd rydych chi fwyaf tebygol o feichiogi.
Datblygon ni Declyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru i’ch helpu chi i dracio symptomau mewn ffordd a fydd yn eich helpu i gynnal trafodaethau gyda meddyg. Mae Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yn canolbwyntio ar y symptomau allweddol sydd fwyaf defnyddiol i chi a’ch meddyg wrth wneud penderfyniadau am eich gofal. Bydd y teclyn yn eich helpu i adeiladu proffil o’ch symptomau y gallwch ei ddangos i’ch meddyg.
Ni all Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru roi diagnosis swyddogol i chi wrth ei hunan. Dim ond meddyg all wneud diagnosis. Fe ddylunion ni’r teclyn er mwyn i chi allu rhannu gwybodaeth gyda’ch meddyg.