Sut i ddefnyddio Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru
Mae dwy ran i’r traciwr. Mae’r rhan gyntaf yn gofyn amdanoch chi a’ch hanes meddygol. Mae’r ail ran yn gofyn am eich symptomau.
Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru
Lawrlwytho PDF ‘Amdanoch Chi’ y Teclyn Adrodd
Cam 1: Amdanoch chi
Amdanoch chi a’ch hanes meddygol.
Mae Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yn gofyn cwestiynau sylfaenol fel eich oedran ac a oes gennych chi aelod yn eich teulu ag endometriosis. Os ydych chi’n cael mislif, mae’r teclyn yn gofyn pa mor hir mae eich mislif yn para fel arfer, a beth oedd dyddiad eich mislif diwethaf. Gallwch ddefnyddio’r teclyn os nad ydych chi’n cael mislif hefyd.
Mae’r teclyn hefyd yn gofyn a ydych chi wedi gweld meddyg am eich symptomau, a ymchwiliwyd i’r symptomau, ac a ydych chi’n cymryd meddyginiaeth a allai newid sut mae eich symptomau’n effeithio arnoch chi.
Bydd angen i chi lenwi’r rhan yma y tro cyntaf rydych chi’n defnyddio’r teclyn.
Gair i gall
Ar y wefan, enw’r adran yma yw’r ‘Rhestr Wirio Proffil’.
Os ydych chi’n defnyddio fersiwn copi caled o’r teclyn, dyma’r dudalen gyntaf.
Lawrlwytho PDF’ ‘Cofnodi Symptomau’ y Teclyn Adrodd
Cam 2: Tracio eich symptomau ac effaith eich symptomau
Yma mae Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yn gofyn am gyfres benodol o symptomau ac a ydych chi wedi profi rhai ohonyn nhw dros y 24 awr diwethaf.
Mae’n iawn os nad ydych chi wedi profi rhai neu ddim un o’r symptomau. Mae’r ffaith fod y symptomau’n mynd a dod yn wybodaeth ddefnyddiol i’ch meddyg. Nid yw’r teclyn yn gofyn i chi am bob symptom endometriosis posib. Dim ond am nifer fach o symptomau allweddol mae’n gofyn, sy’n dueddol o osod endometriosis ar wahân i gyflyrau eraill. Dylech lenwi’r rhan yma’n ddyddiol, hyd yn oed ar ddiwrnodau pan nad ydych chi’n profi symptomau.
Mae’r traciwr yn gofyn sut mae eich symptomau yn effeithio arnoch chi mewn dwy ffordd:
- Dwysedd Poen: Pa mor boenus mae pob un o’r symptomau
- Effaith: Faint mae eich symptomau’n effeithio ar weithgareddau
Gair i gall
Ar y wefan, gallwch ychwanegu cofnod symptom dyddiol gan ddefnyddio’r botwm ‘Ychwanegu cofnod newydd o symptom’.
Os ydych chi’n defnyddio’r fersiwn copi caled o’r teclyn, mae’r tracio symptomau ar dudalennau 2 a 3.
Cam 3: Cadw Cofnod o’ch Hanes Gofal Iechyd (Teclyn Adrodd Gwefan yn unig)
Cadw cofnod o’ch apwyntiadau meddygol.
Er mwyn eich helpu i gadw cofnod o’ch apwyntiadau meddygol, defnyddiwch y botwm ‘Diweddaru eich Hanes Gofal’ unrhyw bryd y bydd rhywbeth yn newid. Gallai hyn gynnwys:
- Apwyntiad gyda’ch meddyg teulu neu feddyg arall
- Cael prawf
- Dechrau triniaeth newydd
Bydd y wybodaeth yma hefyd yn ein helpu ni i ddeall a yw’r teclyn yn helpu pobl, fel bod modd i ni barhau i’w wella. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma.
Am ba mor hir ddylwn i ddefnyddio Teclyn Endometriosis Cymru?
Dylech ddefnyddio’r teclyn yn ddyddiol am o leiaf ddau fis (neu dros ddau fislif), hyd yn oed os nad ydych chi’n profi symptomau.
Bydd yn ddefnyddiol i’ch meddyg weld patrwm eich symptomau cyn y gallan nhw benderfynu ar y gofal gorau i chi.
Paratoi ar gyfer eich Apwyntiad
Cofiwch fynd â chanlyniadau’r Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru gyda chi pan fyddwch chi’n ymweld â’r meddyg.
Gair i gall
Er mwyn creu adroddiad i’w rannu gyda’ch meddyg, defnyddiwch y botwm ‘Adroddiad’.
Bydd y wybodaeth yma’n ddefnyddiol i chi a’ch meddyg benderfynu ynghylch eich gofal. Y mwyaf y byddwch chi’n defnyddio’r traciwr, y mwyaf manwl fydd y darlun o’ch symptomau a’u heffaith ar gyfer eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Efallai y byddwch chi am rannu’r wybodaeth yma gyda’ch meddyg teulu cyn eich apwyntiad. Dylech gysylltu â’ch meddygfa i ganfod y ffordd orau o wneud hyn.
Efallai y bydd eich meddyg wedi argymell eich bod yn defnyddio’r teclyn, ac yn yr achos hwnnw, dilynwch gyngor eich meddyg.
Os daethoch chi o hyd i’r teclyn eich hunan a’ch bod am rannu’r canlyniadau gyda’ch meddyg, rydyn ni wedi cynnwys awgrymiadau isod o ffyrdd y gallwch gyflwyno’r teclyn:
- “Rydw i’n profi symptomau _______ ac maen nhw’n cael effaith negyddol sylweddol ar fy mywyd”
- “Rydw i wedi bod yn defnyddio teclyn i gofnodi fy symptomau dros amser. Cafodd y teclyn yma ei ddatblygu a’i greu gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, cleifion, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac mae wedi’i gefnogi gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.”
- “Mae’r teclyn yn casglu gwybodaeth am symptomau endometriosis ar sail canllawiau NICE dros ddau fis. Alla i rannu’r adroddiad cryno gyda chi? Rwy’n deall nad yw’r teclyn yn rhoi diagnosis i fi, ond tybed a fyddai modd i ni ymchwilio i’r symptomau yma gyda’n gilydd?
- “Mae gwefan ar waelod yr adroddiad os hoffech chi ddysgu mwy am y teclyn”