Nyrwyr Endometriosis yng Nghymru

Un o brif argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru yn 2018 oedd i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru benodi o leiaf un nyrs i gyflawni rôl nyrs endometriosis arbenigol. Byddai hon yn swydd gwbl newydd, ac yn unigryw i Gymru. 

Cyn hynny, ac yng ngwledydd eraill Prydain, byddai nyrsys endometriosis ond yn cael eu penodi pe bai canolfan ‘drydyddol’ achrededig arbennig ar gyfer endometriosis yn yr ysbyty, y Bwrdd Iechyd, neu’r Ymddiriedolaeth.  

Mae Canolfannau Trydyddol Endometriosis ar gael mewn lleoliadau penodol ledled gwledydd Prydain a thramor. Mae Cymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain (BSGE) yn gyfrifol am achredu’r canolfannau, ac yn cynnal rhestr gyfredol ohonynt yma.

Gweledigaeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis Cymru Gyfan, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd cael math newydd o nyrs endometriosis.  Argymhellodd y Grŵp fod y nyrsys yma’n gweithio ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, yn cefnogi cleifion nad oedden nhw o dan ofal arbenigwr endometriosis mewn canolfan drydyddol eto. 

Beth yw Canolfannau Trydyddol Endometriosis? 

Yn bennaf, mae Canolfannau Trydyddol Endometriosis yn darparu llawdriniaeth amlddisgyblaethol i gleifion sydd ag endometriosis difrifol iawn, er enghraifft endometriosis sy’n treiddio’n ddwfn neu endometriosis recto-faginol, sef pan fyd y cyflwr wedi effeithio ar y bledren neu’r coluddyn neu pan fydd yr endometriosis y tu allan i’r pelfis. Mewn achosion prin, er enghraifft, mae modd dod o hyd i endometriosis mewn lleoliadau fel yr ysgyfaint a’r diaffram. 

Nid yw Canolfannau Trydyddol Endometriosis yn adeiladau ar wahân, ond fel arfer maen nhw tu mewn i adrannau gynaecoleg ysbytai cyffredinol. Maen nhw’n wahanol i wasanaethau arferol gynaecoleg mewn gofal eilaidd gan eu bod nhw’n cynnwys clinigwyr sydd wedi arbenigo mewn trin endometriosis cymhleth.  

Mae’r canolfannau’n dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd, gan gynnwys wrolegwyr, llawfeddygon colorectol, rheolwyr poen, ffisiotherapyddion pelfig, a nyrsys clinigol arbenigol (neu ‘CNS’). Mae’r CNS yn rhan allweddol o’r tîm amlddisgyblaethol. Yn wir, mae’n rhaid i ganolfan benodi CNS os ydyn nhw am gael achrediad. 

Mae’r Nyrs Glinigol Arbenigol, neu’r CNS, mewn canolfan drydyddol endometriosis yn darparu gwasanaeth gwahanol i’r nyrsys roedd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis Cymru Gyfan eisiau eu gweld mewn adrannau gynaecoleg byrddau iechyd yng Nghymru.  

Mewn Canolfan Drydyddol Endometriosis, bydd Nyrs Glinigol Arbenigol: 

  • yn gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng y claf a’r tîm arbenigol. 
  • yn cysylltu’n uniongyrchol â chleifion sy’n defnyddio’r gwasanaeth arbenigol ac yn rhoi cefnogaeth iddyn nhw i reoli eu cyflwr. 
  • yn gyfrifol fel arfer am gyflawni asesiad cychwynnol o’ch anghenion. Bydd yr apwyntiadau yma’n digwydd pan fyddwch chi’n ymweld â’r ganolfan arbenigol am y tro cyntaf fel claf allanol.  
  • yn rhoi gwybod i’r tîm arbenigol beth yw eich anghenion er mwyn iddyn nhw fod yn barod pan fyddwch chi’n dod i mewn am eich llawdriniaeth. 
  • yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi.  
  • yn cwblhau holiaduron Ansawdd Bywyd gyda chi’n rheolaidd.  
  • yn cynnal apwyntiad dilynol gyda chi 6 mis ar ôl eich llawdriniaeth, pe baech chi’n dymuno cael un. 

Tu allan i Ganolfannau Trydyddol Endometriosis, yng Nghymru 

Yn 2018, gofynnwyd i Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru weithredu ar argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis Cymru Gyfan, ac un o’r rhain oedd sicrhau bod yna nyrsys endometriosis tu allan i ganolfannau trydyddol. 

Darparodd y Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod gyllid i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru er mwyn recriwtio cyfwerth ag un nyrs endometriosis yr un (dau yn y gogledd oherwydd maint yr ardal a nifer y cleifion). 

Yn 2021, penodwyd y Nyrsys Clinigol Arbenigol (CNS) Endometriosis yng Nghymru, ac yn 2022 fe gawson nhw Wobr Fferylliaeth Cymru am Ddatblygiadau ym maes Iechyd Menywod, i gydnabod eu rôl yn gwella mynediad at wasanaethau i ferched a menywod3

Mae Nyrsys Endometriosis Cymru yn cydnabod bod hwn yn gyflwr cyffredin ond sy’n aml yn cael ei esgeuluso. Maen nhw’n gwerthfawrogi y gall ei reoli fod yn gymhleth ar adegau, a’i fod yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd menyw. Maen nhw i gyd yn gweithio tuag at ddarparu gofal a chymorth uniongyrchol i’r rhai y mae endometriosis ac adenomyosis yn effeithio arnyn nhw.  

Yn dibynnu ar y bwrdd iechyd, efallai y bydd Nyrsys Endometriosis yn helpu cleifion i gael mynediad at wahanol wasanaethau ac i’w llywio, gan gynnwys y meddyg teulu, gynaecoleg ac ymgynghorwyr gofal eilaidd eraill, ffisiotherapi pelfig, rheoli poen pelfig, gwasanaethau ffrwythlondeb, a’r clinig menopos, yn ogystal â chynnig rhyw fath o gymorth seicolegol. 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y nyrsys endometriosis yng Nghymru yn cynorthwyo â datblygiad proffesiynol parhaus meddygon teulu a staff gofal sylfaenol eraill. Gallai hyn gynnwys eu helpu nhw i wella eu dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd y gall endometriosis ymddangos, beth ellir ei wneud yn well i gefnogi cleifion, a datblygu llwybrau gofal yn unol â chanllawiau NICE. 

Yng Nghymru, bydd Nyrs Glinigol Arbenigol tu allan i Ganolfan Drydyddol Endometriosis: 

  • yn gweithredu fel pwynt cyswllt ac yn cefnogi cleifion sy’n cael trafferth â symptomau endometriosis 
  • un ai’n gallu gwneud presgripsiwn am feddyginiaeth eu hunain neu gynghori gweithiwr gofal iechyd arall sydd ag awdurdod i ysgrifennu’r presgripsiwn, fel eich meddyg teulu
  • yn cyfeirio neu’n atgyfeirio cleifion at ddull o reoli’r clefyd sy’n llawfeddygol neu beidio 
  • cynorthwyo ag addysg meddygon teulu a nyrsys practis. 

Gan fod y rôl yma’n newydd, mae nyrsys endometriosis Cymru wedi gorfod cyflawni ystod o hyfforddiant i sicrhau bod modd iddyn nhw ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i gleifion yn eu hardal.  Gallai hyn olygu bod gwahaniaethau ar hyn o bryd yn y ffordd mae gwasanaeth nyrs endometriosis ar gael ym mhob Bwrdd Iechyd. 

Dysgu mwy am wasanaeth Nyrs Endometriosis eich Bwrdd Iechyd 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at y gwasanaeth nyrs endometriosis yn eich ardal chi, dylech gysylltu ag adran gynaecoleg eich Bwrdd Iechyd. 

Gallwch hefyd ymweld â gwefan eich Bwrdd Iechyd i gael gwybodaeth am ofal endometriosis yn eich ardal chi: