Ymgynghorwyr yw’r radd uchaf o feddygon ysbyty ac maen nhw’n gyfrifol am arwain tîm. Bydd arbenigwyr neu feddygon arbenigol (Meddygon SAS) wedi cael o leiaf 4 blynedd o hyfforddiant ôl-raddedig gan gynnwys o leiaf 2 yn eu harbenigedd.

Gynaecolegwyr ymgynghorol fydd y meddygon sy’n gofalu am gleifion ag endometriosis.

Yn y rhan fwyaf o adrannau gynaecoleg ysbytai, bydd y meddygon wedi cael hyfforddiant i roi diagnosis endometriosis a byddan nhw’n gallu cynnig triniaeth ar gyfer mathau llai difrifol ohono, lle nad oes llawer o’r clefyd neu lle mae’n ‘arwynebol’ (sy’n golygu nad yw’n treiddio’n ddwfn i’r meinweoedd).

Os yw’r clefyd yn arbennig o ddwfn neu os yw’n effeithio ar organau fel y coluddyn, y bledren neu’r wreterau (y tiwbiau sy’n pasio wrin o’r arennau i’r bledren), dylai’r claf fod dan ofal tîm amlddisgyblaethol arbenigol o feddygon sydd wedi cael hyfforddiant uwch i dorri endometriosis allan o’r lleoedd gwahanol hyn. Bydd y tîm yn gweithio gyda’i gilydd i gael gwared ar gymaint o’r clefyd ag sy’n bosibl tra bo’r claf o dan anesthetig cyffredinol. Dim ond mewn rhai ysbytai mae’r timau hyn.

Efallai bydd rhywun o dan 18 oed yn cael ei chyfeirio at gynaecolegydd pediatrig.