Mae gan Gymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain (The British Society for Gynaecological Endoscopy (BSGE)) gronfa ddata o ganolfannau a llawfeddygon endometriosis arbenigol yn y DU. Bydd y gynaecolegwyr sydd yn y gronfa ddata hon yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau laparosgopig uwch ac yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Mae’r tîm hwn yn cynnwys llawfeddygon y coluddyn (y colon a’r rhefr), llawfeddygon y bledren (wrolegwyr), arbenigwyr rheoli poen a nyrs endometriosis arbenigol er mwyn cynnig dull gofal cyfan.

Er mwyn i rywun gael ei gweld gan arbenigwr mewn canolfan endometriosis, fel arfer bydd angen bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Endometriosis wedi’i ganfod ar y bledren
  • Endometriosis wedi’i ganfod ar y coluddion
  • Endometriosis wedi’i ganfod ar y wreterau
  • Systiau endometrioma (‘siocled’) wedi’u canfod ar un ofari neu’r ddau

Fel arfer, bydd angen i’r person gael atgyfeiriad at ganolfan arbenigol gan ei gynaecolegydd lleol a fydd wedi gwneud asesiad diagnostig er mwyn gweld a yw wedi bodloni’r meini prawf hyn. Efallai bydd hyn yn cynnwys llawdriniaeth, felly mae’n gallu cymryd peth amser.

Ar hyn o bryd, dim ond un ganolfan endometriosis arbenigol sydd yng Nghymru, a hynny yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro. Efallai bydd rhywun sy’n bodloni’r meini prawf yn cael atgyfeiriad at ganolfan endometriosis wahanol, yn dibynnu ar y man yng Nghymru lle mae’n byw.

  • De Cymru
    Y ganolfan endometriosis yn Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Y Canolbarth
    Naill ai Ysbyty Athrofaol Cymru, Arrowe Park yng Nghilgwri (Wirral), yn Lloegr neu o bosibl canolfannau arbenigol yng nghanolbarth Lloegr.
  • Gogledd Cymru
    Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri (Wirral), yn Lloegr.