Mae’n gyffredin iawn i bobl sydd ag endometriosis ddechrau profi’r symptomau yn eu harddegau, pan fyddan nhw’n cael mislif am y tro cyntaf, neu hyd yn oed cyn hynny weithiau.

Os oes hanes teuluol o fislif poenus a symptomau cysylltiedig, yna mae’n fwy tebygol y byddwch chi’n eu cael nhw hefyd, ond dydy hynny ddim bob amser yn wir. Os ydych chi’n cael poen neu broblemau’n ymwneud â’r mislif, dylech ofyn am gyngor cyn gynted â phosib, i wella ansawdd eich bywyd, ond hefyd fel bod modd i chi reoli’r cyflwr yn y dyfodol.

Pie chart illustrating 72.8% of endometriosis patients have a relative with endometriosisRoedd gan 72.8% o’r cleifion endometriosis a ymatebodd i’n harolwg o leiaf un berthynas oedd ag endometriosis.

Mae’n fwy cyffredin i gleifion iau sydd â symptomau endometriosis gael cynnig rheolaeth feddygol, fel poenladdwyr neu’r bilsen atal cenhedlu. Os nad yw’r rhain yn helpu, yna mae’n bosib y bydd angen eich atgyfeirio at gynaecolegydd sy’n arbenigo mewn achosion pediatreg (plant). Yna, gallai’r gynaecolegydd benderfynu bod angen llawdriniaeth laparosgopig i ymchwilio ymhellach.