Beth yw endometriosis?
Endometriosis yw pan fydd meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd i’w chael y tu mewn i’r groth, yn cael ei chanfod mewn rhannau eraill o’r corff.
Dysgwch am endometriosis, ei symptomau a sut y gall effeithio ar fywydau’r rhai yr effeithir arnynt.
Endometriosis yw pan fydd meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd i’w chael y tu mewn i’r groth, yn cael ei chanfod mewn rhannau eraill o’r corff.
Mae endometriosis yn effeithio ar y pelfis yn fwy na dim, ond mae hefyd yn gallu bod mewn rhannau eraill o’r corff.
Cyflwr cronig yw endometriosis, a all effeithio’n ddifrifol ar eich bywyd bob dydd, ond nid yw’n cymhwyso’n awtomatig fel anabledd o dan y ddeddf cydraddoldeb.