Beth yw endometriosis?

Endometriosis yw pan fydd meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd i’w chael y tu mewn i’r groth, yn cael ei chanfod mewn rhannau eraill o’r corff. I rai pobl, mae hyn yn gallu achosi symptomau difrifol, gan gynnwys mislif poenus a phoen pelfig, a gallai olygu fod pobl yn cael anawsterau’n beichiogi.

Gall endometriosis gael effaith enfawr ar ansawdd bywyd unigolyn, eu gwaith a’u perthnasau.

Diagram o’r organau atgenhedlu benywaidd yn dangos smotiau o feinwe endometriosis y tu allan i’r groth
Endometriosis yw pan fydd meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd i’w chael y tu mewn i’r groth, yn cael ei chanfod mewn rhannau eraill o’r corff

Mae endometriosis yn golygu pan fydd meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd i’w chael y tu mewn i’r groth, yn cael ei chanfod mewn rhannau eraill o’r corff.

Amcangyfrifir bod endometriosis yn effeithio ar un ym mhob deg menyw a’r rhai sy’n cael eu dynodi’n fenyw adeg eu geni. Fel arfer, ystyrir ei fod yn effeithio ar bobl o oedran atgenhedlu (yn gyffredinol rhwng 11 a 45), ond gall pobl sydd heb gyrraedd y glasoed eto, neu bobl hŷn sydd wedi mynd trwy’r menopos, fod â’r clefyd hefyd.

Fel arfer, mae endometriosis yn y pelfis. Y pelfis yw’r rhan o’r corff lle mae’r organau atgenhedlu e.e. y fagina, y groth, yr ofarïau a’r tiwbiau ffalopaidd. Yn y rhan yma o’r corff mae’r coluddyn a’r bledren hefyd, felly nid yw’n anarferol i endometriosis effeithio ar yr organau hynny hefyd. Yn achlysurol, gellir dod o hyd i endometriosis y tu allan i’r pelfis, ar organau neu strwythurau eraill yn y corff, gan gynnwys y diaffram a’r ysgyfaint.

Mae sbotiau endometriosis, neu ‘friwiau’, yn achosi gwaedu, llid a chreithiau lle bynnag maen nhw. Weithiau, gallan nhw achosi i organau lynu at ei gilydd gyda bandiau o feinwe craith o’r enw ‘adlyniadau’.

Gall endometriosis achosi poen a symptomau eraill, yn aml yn ystod y mislif. Dros amser, efallai bydd y symptomau yma’n digwydd drwy’r mis.

Er nad ydyn ni’n gwybod beth sy’n achosi endometriosis eto, mae ymchwil wedi dangos bod pobl yn fwy tebygol o fod â’r clefyd os yw e gan eu mam neu eu chwaer enetig.

Siart cylch yn dangos bod gan 72.8% o gleifion endometriosis aelod o’r teulu sydd ag endometriosis
Roedd gan 72.8% o’r cleifion endometriosis a ymatebodd i’n harolwg o leiaf un aelod o’r teulu oedd ag endometriosis.

Safbwyntiau Cleifion

Mae’r safbwyntiau cleifion yn dod o gyfweliadau â chleifion endometriosis ac arolwg 2018

  • Doeddwn i erioed wedi clywed am endometriosis tan i fi gael y diagnosis, ac roedd e’n deimlad mor ynysig, fel petai’r cyflwr yma’n glanio arnoch chi, a neb yn deall.

  • Mae endometriosis yn gyflwr hollol anweledig. Heblaw am allu dangos y creithiau sydd ganddoch o’r holl lawdriniaethau rydych chi wedi’u cael – ac yn amlwg dydych chi ddim yn gwneud hynny gan eu bod nhw o dan eich dillad – rydych chi’n edrych yn hollol normal.

  • Doeddwn i ddim yn gwybod bod endo yn bodoli . . . Ro’n i’n meddwl bod poen y mislif yn rhan o fywyd menyw. Doedd dim byd i gymharu rhwng menywod a fyddai’n galluogi menyw i ddweud, ‘mae’n rhaid bod rhywbeth o’i le, dw i’n teimlo’n waeth na fy nghyfoedion’. . .unwaith eto, mae hynny oherwydd diffyg dealltwriaeth o endometriosis.

Safbwyntiau llwybrau

Gan fod y lleoliad, y symptomau a’r difrifoldeb yn gallu amrywio cymaint, mae endometriosis yn gyflwr eithriadol o anodd i wneud diagnosis ohono.