A yw endometriosis yn anabledd?

Cyflwr cronig yw endometriosis, a all effeithio’n ddifrifol ar eich bywyd bob dydd, ond nid yw’n cymhwyso’n awtomatig fel anabledd o dan y ddeddf cydraddoldeb. Mewn gwirionedd, does dim llawer o gyflyrau iechyd yn cymhwyso fel anabledd, ond nid yw hynny’n golygu na all rhywun sy’n byw ag endometriosis gael eu hanablu gan y cyflwr, ac mae’r gyfraith yn derbyn hyn.

I rai, efallai y bydd modd rheoli’r cyflwr a’u bod yn gallu gwneud y rhan fwyaf o bethau, os nad popeth, sydd angen iddyn nhw ei wneud yn eu bywydau heb broblem. Efallai y bydd eraill yn gweld bod eu symptomau’n amharu ar eu bywyd bob dydd mewn ffordd lawer mwy eithafol: efallai y byddan nhw’n ei chael yn anodd gweithio neu wneud tasgau dydd i ddydd fel mynd i’r gawod neu siopa bwyd hyd yn oed.

Mae amhariadau corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol ‘hirdymor’ a ‘sylweddol’ ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol dydd i ddydd wedi’u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

  • mae ‘hirdymor’ yn golygu 12 mis neu fwy
  • mae ‘sylweddol’ yn golygu mwy nag effaith fân neu ddibwys

Gall gymryd amser i gael cadarnhad o ddiagnosis o endometriosis, felly mae’n bwysig gwybod eich bod yn dal i fod yn gymwys am yr amddiffyniad a ddarperir gan Ddeddf 2010 hyd yn oed os nad yw’ch diagnosis wedi’i gadarnhau. Nid yw’r amddiffyniadau sydd yn y Ddeddf yn dibynnu ar beth yw’r cyflwr na chadarnhad o ddiagnosis. Yr hyn sy’n bwysig yw pa mor hir mae wedi effeithio arnoch, ac a yw wedi’ch rhwystro rhag byw bywyd normal a chyflawni tasgau bob dydd.

Os nad yw eich symptomau’n barhaus

Mae’r ddeddf yn gwneud darpariaethau ar gyfer pobl y mae eu symptomau ar eu gwaethaf ar wahanol adegau, er enghraifft, un wythnos o bedair, neu yn ystod wythnos eich mislif. Os yw eich symptomau’n cael effaith sylweddol ar eich gallu i gyflawni tasgau bob dydd, a’ch bod yn gwybod bod hyn yn debygol o ddigwydd bob mis am lawer o flynyddoedd, gelwir hyn yn ‘amhariad parhaus’ a byddwch yn cael eich amddiffyn fel person anabl.

Gall symptomau endometriosis waethygu dros amser – mae’n ‘gyflwr cynyddol’ sydd hefyd wedi’i gynnwys o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r Ddeddf hefyd yn dweud os ydych chi wedi cael llawdriniaeth neu driniaeth ar gyfer eich cyflwr sydd wedi arwain at broblemau parhaus, mae dal modd cael eich ystyried yn anabl.

Safbwyntiau llwybrau