Beth yw symptomau endometriosis?

Mae’r rhan fwyaf o bobl ag endometriosis yn profi poen yn ardal y pelfis. Caiff y boen ei theimlo’n aml ar adegau penodol yn y cylch mislif ac ar ôl rhyw. Os yw’n cael ei adael heb ei drin, gall endometriosis achosi poen ar adegau eraill o’r mis, hefyd.

Mae endometriosis yn effeithio ar y pelfis yn fwy na dim, ond mae hefyd yn gallu bod mewn rhannau eraill o’r corff. Mae hyn yn golygu bod symptomau endometriosis yn gallu amrywio llawer iawn rhwng un person a’r llall.

Ymhlith symptomau cyffredin endometriosis, mae:

  • poen yn isel yn y bol neu’r cefn (poen pelfig) – sydd fel arfer yn waeth yn ystod y mislif
  • poen mislif sy’n atal rhywun rhag gwneud eu gweithgareddau arferol
  • poen yn ystod neu ar ôl rhyw
  • poen wrth fynd i’r tŷ bach yn ystod mislif
  • teimlo’n sâl, rhwymedd, dolur rhydd, neu waed yn eich wrin yn ystod mislif
  • coesau poenus
  • anhawster yn beichiogi (anffrwythlondeb)
  • blinder
  • teimlo’n wan a/neu lewygu

Ynghyd â’r symptomau mwy cyffredin, mae’n werth nodi bod llawer o symptomau eraill sy’n llawer llai cyffredin. Er enghraifft, ystyrir bod poen yn yr ysgwydd neu ysgyfaint yn symptom llai cyffredin, ac yn gyffredinol mae hyn yn effeithio ar bobl sydd ag endometriosis ar eu diaffram neu ysgyfaint.

Dydy gwaedu trwm ddim o reidrwydd yn arwydd o endometriosis, ond gall fod yn symptom o gyflwr arall o’r enw adenomyosis, sy’n aml yn digwydd ochr yn ochr ag endometriosis. Mae’n gyflwr tebyg iawn, ond yn hytrach na’r sbotiau neu’r briwiau y tu allan i’r groth, fel yn achos endometriosis, maen nhw yn ei waliau cyhyrol, gan wneud y groth yn fwy ac yn fwy ‘swmpus’. Mae’r cynnydd yma mewn maint yn golygu bod mwy o leinin yn y groth i’w waredu yn ystod y mislif, gan arwain at waedu trymach.

Mae adenomyosis yn debyg i endometriosis ond mae’r briwiau yn waliau cyhyrol y groth.

Er nad yw problemau iechyd meddwl yn symptomau o gyflwr endometriosis, mae pobl sy’n byw â chyflyrau poenus yn aml yn adrodd eu bod yn teimlo’n isel neu’n bryderus.

Symptomau endometriosis yn y glasoed 

Gallai arwyddion a symptomau fod yn wahanol yn ystod y glasoed o gymharu â menywod sy’n oedolion. Er enghraifft, mae pobl yn eu harddegau’n cyflwyno symptomau anghylchol neu gyfog yn amlach, ac maen nhw’n llai tebygol nag oedolion o brofi anffrwythlondeb neu endometriomas. Yn aml, mae eu briwiau’n llai amlwg neu’n lliw gwahanol i rai oedolion. Dylai meddygon gymryd hanes gofalus i nodi ffactorau risg posib ar gyfer endometriosis (e.e. hanes teulu positif, dechrau’r mislif yn gynnar neu gylchoedd mislif byr, a chamffurfiadau cenhedlu rhwystrol). 

Efallai bydd meddygon yn amau bod endometriosis ar rywun os byddan nhw’n cyflwyno gyda phoen pelfis cylchol, absenoldeb cylchol o’r ysgol, neu’n defnyddio dull atal cenhedlu drwy’r geg i reoli mislif poenus. Yn ogystal, gallai’r symptomau canlynol awgrymu presenoldeb endometriosis: poen pelfig cronig neu anghylchol ar y cyd â chyfog, dysmenorrhea, dyschezia, dysuria, dyspareunia, poen pelfig cylchol (hynny yw mislif poenus, poen wrth fynd i’r tŷ bach (wrin neu ymgarthu), neu boen yn ystod neu ar ôl rhyw treiddiol). 

Safbwyntiau Cleifion

Mae’r safbwyntiau cleifion yn dod o gyfweliadau â chleifion endometriosis ac arolwg 2018

  • Ro’n i’n profi poen nad o’n i mewn gwirionedd eisiau ei drafod gyda neb, a phan gyrhaeddais i fy ugeiniau cynnar, fe ges i’r nerth i fynd i siarad gyda fy meddyg am rywbeth nad o’n i’n hapus ag e.

  • Dydy e ddim mor syml, dw i ddim yn meddwl, â dweud ‘Wel, os oes gen ti endometriosis, fe gei di hyn, hyn a hyn’. Dw i’n credu y gall fod yn gymhleth iawn, yn dibynnu ar lawer o ffactorau. Felly dw i’n credu bod unrhyw ymwybyddiaeth gallwn ni ei chodi, ac unrhyw ffordd y gallwn ni helpu pobl i gael cymorth, yn bwysig iawn.

  • Mae gen i broblem go iawn gyda’r rhethreg yma bod pob menyw yn cael mislif, bod y mislif yn boenus, a bod yn rhaid i fenywod dderbyn y boen. Dydy hynny ddim yn wir, ac mae’n rhaid iddo newid.

Safbwyntiau llwybrau

Bydd eich meddyg yn ceisio nodi patrwm: a yw eich symptomau’n digwydd yn rheolaidd? Ydych chi’n teimlo’n waeth ar adegau penodol o’r mis, er enghraifft yn ystod eich mislif neu yng nghanol eich cylch, yn ystod ofyliad? Gall cadw golwg ar y patrymau yma helpu eich gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud diagnosis mwy clir.