A yw gwaedu trwm yn arwydd o endometriosis?
Weithiau gall gwaedu trwm fod yn symptom o endometriosis, ond yn aml mae’n symptom o gyflwr arall o’r enw ‘adenomyosis’. Mae adenomyosis yn aml i’w weld ochr yn ochr ag endometriosis. Mae’n glefyd tebyg iawn ond yn hytrach na bod y smotiau neu’r namau y tu allan i’r groth, fel sy’n wir am endometriosis, maen nhw wedi’u gwreiddio yn ei waliau cyhyrol, gan wneud y groth yn fwy o faint ac yn fwy ‘swmpus’. Mae’r cynnydd mewn maint yn golygu bod mwy o leinin y groth i gael gwared arno yn ystod gwaedlif, felly mae’r gwaedu’n drymach. Darllenwch ragor am adenomyosis yma.