Endometrioma yw endometriosis sydd ar yr ofari, fel arfer ar ffurf syst (sy’n cael ei alw’n syst siocled weithiau). Yr ofari yw’r organ atgenhedlu benywaidd lle mae wyau’n cael eu ffurfio a hormonau benywaidd yn cael eu cynhyrchu.

Diagram o organau atgenhedlu benywaidd yn dangos codennau siocled brown ar yr ofarïau
Codennau brown tywyll yw endometriomas, neu ‘godennau siocled’, sy’n datblygu ar yr ofarïau. Yn aml, mae endometriomas yn arwydd o endometriosis mwy datblygedig.

Mae endometriomâu neu ‘systiau siocled’ yn systiau brown tywyll sy’n datblygu ar yr ofarïau. Yn aml, mae endometriomâu yn arwydd o endometriosis mwy datblygedig.

Mae dwy ffordd o drin endometriomâu. Mae’r dull cywir ar gyfer person yn gallu dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys pa mor ddifrifol yw ei symptomau, a oes effaith ar y ddau ofari neu ddim ond ar un ofari, ac a yw ffrwythlondeb yn broblem i’r person.

Draenio’r hylif allan o’r endometrioma

Mae’r dull hwn yn golygu nad oes unrhyw wyau’n cael eu tynnu yn y broses ond mae’n golygu bod y endometrioma yn fwy tebygol o ddigwydd eto.

Tynnu’r endometrioma yn llwyr

Mae’r dull hwn yn lleihau llid ac yn gwneud yr ofari’n iachach. Er y bydd rhai wyau’n cael eu colli, mae’r rhai sydd wedi’u gadael ar ôl yn fwy hyfyw ar gyfer beichiogrwydd. Os nad yw ffrwythlondeb yn broblem, efallai y byddai’n well cael gwared ar y endometrioma yn llwyr. Mae’r broses o dynnu, neu dorri allan, endometrioma yn un sensitif iawn, felly arbenigwr ddylai ei gwneud.

Darllenwch ragor am endometriosis a ffrwythlondeb yma.