Mae’r ffordd rydyn ni’n profi poen yn amrywio llawer rhwng pobl, felly dydy hi ddim bob amser yn ddefnyddiol cymharu lefel eich poen gyda ffrindiau neu deulu. Mae symptomau pobl yn gallu bod yn wahanol iawn, ac mae rhai pobl yn gallu goddef mwy o boen nag eraill.

Pryd i ofyn am gymorth

Y peth pwysig i’w gofio yw os bydd eich symptomau yn effeithio ar eich gallu i wneud gweithgareddau dydd i ddydd, mae’n bryd ceisio cymorth meddygol.
Os ydych chi’n cymryd poenladdwyr dros y cownter (e.e. parasetamol) bob dydd, neu os nad yw cymryd y lefel uchaf a ganiateir ar y pecyn yn helpu eich poen, dylech siarad gyda’ch meddyg.