Mae poen yn ystod neu ar ôl rhyw yn symptom cyffredin o endometriosis, ond mae’n dal i fod yn bwysig sôn am unrhyw boen yn ystod neu ar ôl rhyw wrth eich meddyg.

Dylech geisio trafod y boen gyda’ch partner rhywiol hefyd. Mae’n bosib y bydd siarad am y peth yn eich helpu i archwilio ffyrdd o gael hwyl gyda’ch gilydd heb achosi poen i chi, ac wrth i chi ddod o hyd i ffyrdd o reoli eich cyflwr gyda’ch meddyg.

Cwdyn Douglas

Cwdyn Douglas yw enw’r ardal fach rhwng y groth a’r rectwm (pen-ôl). Mae yn y pelfis, ac mae’n gyffredin dod o hyd i endometriosis yn yr ardal yma. Mae’n arbennig o gyffredin cael poen fan yma yn ystod rhyw treiddiol.

Diagram o ardal y pelfis benywaidd yn dangos lle mae’r Cwdyn Douglas, sef rhwng y groth a’r rectwm.
Cwdyn Douglas yw enw’r ardal fach rhwng y groth a’r rectwm