Nid math o ganser yw endometriosis. Mae’n bosibl cyfeirio at endometriomâu fel ‘tiwmorau anfalaen’: mae hyn yn golygu bod y syst yn ‘fàs’ neu’n chwydd annormal, ond nad yw’n falaen (h.y. canseraidd).

Mae rhai astudiaethau sy’n dangos risg ychydig yn uwch o ddatblygu canser yr ofari os oes gan rywun systiau endometrioma. Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n byw gydag endometriosis yn llawer, llawer uwch na’r niferoedd sy’n datblygu canser yr ofari, felly does dim rheswm i’r person sydd ag endometriosis boeni.

O’i roi yn ei gyd-destun, bydd 1.3% o’r boblogaeth gyffredinol o fenywod yn datblygu canser yr ofari, o’i gymharu â llai na 2% o fenywod sydd ag endometriosis ac sy’n mynd ymlaen i ddatblygu canser yr ofari*. Felly mae’r gwahaniaeth yn fach iawn.

*cyfeirnod: https://ovarian.org.uk/news-and-blog/blog/endometriosis-and-ovarian-cancer-risk/