Mae adenomyosis yn gyflwr sydd â chysylltiad agos ag endometriosis, ac mae’n bosibl bod â’r ddau gyflwr arnoch ar yr un pryd. Mae gan adenomyosis lawer o’r un symptomau, fel poen cronig y pelfis, ond fel arfer mae gwaedu trwm yn digwydd hefyd am gyfnodau hir. Mae adenomysosis yn effeithio ar gyhyrau’r groth felly gall y groth fynd yn fwy o faint oherwydd hyn, ac mae rhai cleifion yn dweud eu bod yn teimlo’n ddolurus neu’n bod teimlad o wasgu yn isel yn eu bol.

Diagram o’r organau atgenhedlu benywaidd yn dangos smotiau o adenomyosis ar waliau’r groth
Mae adenomyosis yn debyg i endometriosis ond mae’r briwiau yn waliau cyhyrol y groth. Mae hyn yn gallu achosi i’r groth ddod yn chwyddedig neu’n ‘swmp

Mae adenomyosis yn glefyd tebyg iawn i endometriosis ond mae yn waliau cyhyrol y groth. Mae hyn yn gallu gwneud i’r groth fynd yn orlawn neu’n ‘swmpus’.

Dim ond ar ôl i’r groth gael ei thynnu drwy hysterectomi a’i hanfon i ffwrdd i’w phrofi mewn labordy y mae’n bosibl rhoi diagnosis adenomyosis ffurfiol. Efallai bydd gynaecolegydd yn amau diagnosis o adenomyosis cyn hynny, oherwydd sut mae’r groth yn edrych yn ystod llawdriniaeth (e.e. laparosgopi): os yw hi’n fawr ac yn orlawn, neu’n cael ei disgrifio fel un ‘swmpus’, bydd hyn yn awgrymu adenomyosis. Weithiau mae hefyd yn bosibl gweld croth fwy na’r arfer ar rai sganiau.