Gall problemau gyda’r coluddyn fod yn gysylltiedig ag endometriosis, yn enwedig os yw’r endometriosis yn cael ei ganfod y tu mewn neu o gwmpas y coluddyn. Gall adlyniadau sy’n aml yn rhan o’r clefyd lapio o gwmpas y coluddyn hefyd, gan achosi iddo fynd yn sownd i rannau eraill o’r pelfis. Gall yr holl broblemau yma arwain at broblemau a phoen yn y coluddyn.