Y farn ar hyn o bryd yw nad yw endometriosis yn glefyd hunanimíwn, ond mae’r ymchwil yn parhau.

Clefyd hunanimíwn yw lle nad yw’r corff yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng celloedd ‘normal’ a rhai ‘estron’, fel firws neu haint. Mae amddiffynfeydd y corff yn dechrau ymosod ar ei gelloedd normal ei hun, gan achosi problemau fel poen a llid.

Y consensws presennol yw bod celloedd endometriosis i’w gweld mewn rhannau o’r corff lle nad ydyn nhw’n perthyn (felly maen nhw’n estron i’r rhan honno o’r corff); mae hyn yn gwneud adwaith y corff yn gywir ac yn ddealladwy: mae’n ceisio ymladd â rhywbeth na ddylai fod yno.