A yw endometriosis yn rhedeg yn y teulu?
Er nad ydyn ni’n gwybod beth sy’n achosi endometriosis eto, mae ymchwil wedi dangos eich bod chi’n fwy tebygol o fod â’r clefyd os yw e gan eich mam neu’ch chwaer enetig.
Pan ofynnon ni i gleifion endometriosis “Oes gennych aelod o’r teulu sydd ag endometriosis?” Dywedodd 72.8% o’r ymatebwyr “oes”. Dywedodd 15.4% fod gan eu mam neu eu chwaer endometriosis, a dywedodd 57.4% arall fod gan aelod arall o’u teulu endometriosis.