Beth sy’n digwydd yng Nghymru

Beth sy’n digwydd yng Nghymru pan ddaw at iechyd menywod ac endometriosis?

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau canolbwyntio ar gydraddoldeb rhywedd a materion iechyd a llesiant cysylltiedig. Mae gwefan Endometriosis Cymru yn enghraifft dda o’r gwaith mae Llywodraeth Cymru wedi argymell ddylai ddigwydd ar endometriosis, ond nid dyma’r unig weithgarwch yn ymwneud â iechyd menywod sy’n digwydd yng Nghymru.

Mynediad at gynhyrchion mislif hanfodol

Mae cynhyrchion mislif yn ddrud, sy’n creu anghyfartaledd iechyd go iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus i’w ddatrys. Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif i roi diwedd ar dlodi mislif a chyflawni urddas mislif yng Nghymru.

Y nod yw sicrhau bod gan bawb sy’n cael mislif fynediad at gynhyrchion hanfodol pan mae eu hangen arnyn nhw, gan gynnwys padiau, tamponau, cwpanau mislif a nicyrs mislif. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael Grant Urddas Mislif i ddarparu cynnyrch mislif am ddim i ysgolion, addysg bellach a chleifion mewnol ysbytai. Mae ymrwymiad hefyd i ehangu hyn i bobl yn y gymuned, gan gynnwys banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a theulu, safleoedd diwylliannol a chwaraeon, a hybiau cymunedol.

Gwybodaeth ac adnoddau

Mae’r Cynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif hefyd yn ymrwymo i ddarparu addysg ac adnoddau i wella dealltwriaeth o iechyd a llesiant mislif a chael gwared â’r stigma a’r cywilydd sy’n aml yn gysylltiedig â’r mislif. Mae hyn yn un o’r rhesymau am oedi cyn i bobl geisio cymorth a diagnosis o gyflyrau fel endometriosis.  

Mae hyn yn cynnwys ymgyrch genedlaethol i wneud Cymru’n wlad sy’n falch o’r mislif. Gallwch wylio rhai o’r ffilmiau byrion gydag aelodau’r cyhoedd yn siarad am y mislif a’r angen i Gymru fod yn ‘falch o’r mislif’ yma.

Mislif Fi

Cafodd gwefan Mislif Fi ei chreu, ei hariannu, a’i datblygu’n wreiddiol gan Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru. Ar gyfer pobl ifanc mae’r wefan, a’i nod yw galluogi sgyrsiau a chwalu tabŵs am y mislif a iechyd y mislif.  

Cafodd cynnwys y wefan ei greu yn seiliedig ar waith ymgysylltu gyda channoedd o bobl ifanc yng Nghymru ar draws ystod o ddemograffeg.  

Yn gynyddol, mae ysgolion yng Nghymru yn defnyddio gwefan Mislif Fi i helpu i gynnal sesiynau addysg ar iechyd mislif a llesiant. 

Iechyd mislif a llesiant ar gwricwlwm uwchradd Cymru

O 2022 ymlaen, mae addysg mislif wedi’i chynnwys yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r pwnc yn dod o fewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac mae’n rhan o’r canllawiau statudol i bob ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae iechyd a lles mislif wedi’i gynnwys yn y canllawiau sy’n cael eu rhannu ag ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n ‘canolbwyntio ar les mislif a chyflyrau sy’n gallu effeithio ar y system atgenhedlu’. Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu adnoddau i’w defnyddio mewn ysgolion i helpu athrawon i ddarparu’r addysg yma.

Gallwch ddarllen mwy am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a’r canllawiau am iechyd a lles mislif yma.

Cynllun Iechyd Menywod a Merched Cymru

Ar ôl gwrando ar lawer o sgyrsiau gyda chleifion, elusennau ac ymchwilwyr, ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Ansawdd ar Iechyd Menywod a Merched. Mae’r Datganiad Ansawdd yn gosod beth mae disgwyl i’r GIG yng Nghymru ei gyflawni er mwyn sicrhau gwasanaethau iechyd o ansawdd da i gefnogi menywod a merched drwy gydol eu bywydau.  

Mae Cynllun Iechyd 10 mlynedd Menywod a Merched GIG Cymru yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod modd i Fyrddau Iechyd gyflawni’r disgwyliadau hyn. Gyda’i gilydd, dylai’r rhain helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd, gwella tegwch gwasanaethau, gwella canlyniadau iechyd i fenywod yng Nghymru, a sicrhau bod gwasanaethau’r GIG yn adlewyrchu anghenion menywod drwy gydol eu bywydau.  

Mae’r Datganiad Ansawdd yn ei gwneud hi’n glir bod angen llawer o sylw ar gyflyrau gynaecolegol fel endometriosis, ac y dylai byrddau iechyd sicrhau eu bod yn gallu gwneud diagnosis a chynnig triniaeth ar eu cyfer mor gyflym â phosib.

Mae Llywodraeth Cymru’n deall nad oes modd i bob anghydraddoldeb iechyd y mae menywod, merched, a phobl y dynodwyd yn y categori rhyw benywaidd adeg eu geni, gael eu datrys gan y GIG, ac felly mae yna hefyd Dîm Polisi Iechyd Menywod, a’u rôl nhw yw sicrhau bod adrannau eraill yn y llywodraeth hefyd yn ystyried eu cynlluniau a’u gweithgareddau drwy lens rhywedd. Mae hyn yn golygu y bydd gofyn iddyn nhw feddwl am sut mae eu polisïau yn effeithio ar iechyd a llesiant menywod.

Mae Adroddiad Darganfod 2022 GIG Cymru yn cyflwyno canlyniadau arolwg y cynhaliodd y Llywodraeth ledled Cymru i glywed lleisiau menywod a merched am eu hiechyd. Ymatebodd dros 3,800 o bobl i’r arolwg, a bydd eu lleisiau yn helpu i greu Cynllun Iechyd Menywod a Merched Cymru y GIG. Mae’r adroddiad yn trafod sawl maes, gan gynnwys iechyd mislif ac endometriosis, ac mae’n cynnig camau i fynd i’r afael â heriau iechyd menywod a merched a lleihau anghydraddoldebau iechyd rhywedd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhyngweithiadau gwell yn ystod ymgynghoriadau gofal iechyd gyda menywod a merched  
  • addysg a hyfforddiant ymarferwyr gofal iechyd, a chyflogwyr  
  • mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o gyflyrau iechyd sy’n effeithio ar fenywod a merched  
  • ymchwil o ansawdd uchel i iechyd menywod

Beth sydd nesaf yng Nghymru

Yn unol â Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer Menywod a Merched, ac ar gefn tystiolaeth fel yr Adroddiad Darganfod a Chlymblaid Iechyd Menywod Cymru yn y trydydd sector, mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn sefydlu Rhwydwaith Strategol Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod.

Cyfrifoldeb y grŵp hwn yw arwain ar ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod a Merched 10 mlynedd y GIG.

Bydd y gwaith o weithredu’r Cynllun yn cael ei fonitro gan Weithrediaeth y GIG, a fydd yn ei thro yn adrodd i’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru. Bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn craffu ar gynnydd, sydd wedi gosod Iechyd Menywod fel un o’u blaenoriaethau. 

Mae Clymblaid Iechyd Menywod Cymru yn grŵp annibynnol o elusennau iechyd a chydraddoldeb, Colegau Brenhinol, grwpiau cleifion ac eiriolwyr, ac ymchwilwyr sydd wedi dod ynghyd i gasglu tystiolaeth a gwneud argymhellion i wella iechyd menywod ar draws eu bywydau yng Nghymru.

Safbwyntiau llwybrau