A oes modd atal endometriosis rhag dechrau?
Yn anffodus does dim ffordd wedi’i phrofi o atal endometriosis rhag dechrau. Ond mae ffyrdd o reoli eich symptomau a lleihau effaith y clefyd. Bydd y driniaeth yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, a dylid penderfynu arni ar y cyd â’ch ymgynghorydd.
Gallwch ddarllen rhagor am driniaethau endometriosis yma.