Gwybodaeth am endometriosis cymru
Mae endometriosis yn effeithio ar 1 o bob 10 menyw… ein nod fel Endometriosis Cymru yw dechrau gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r 1 o bob 10 menyw hyn, drwy rannu profiad ‘byw gyda’ y rhai sydd â diagnosis endometriosis.
Yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd yw’r rhai cyntaf o lawer sydd wedi’u cynllunio, er mwyn sefydlu Endometriosis Cymru fel ffynhonnell ar gyfer gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol i bobl yng Nghymru, drwy gydol unrhyw gam o’u diagnosis endometriosis neu o’u taith ‘byw gyda’.
Mae Endometriosis Cymru yn ganlyniad rhaglen waith fwy ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn gwella’r llwybr a’r canlyniadau i gleifion yng Nghymru sy’n cael eu harwain gan Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod. Byddwn yn rhoi gwybod am y cynnydd pellach yn y rhaglen waith ehangach drwy Endometriosis Cymru.
Mae mandad endometriosis o fewn Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod yn dod o argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen mis Tachwedd 2018; ‘Gofal Endometriosis yng Nghymru: Darpariaeth, Llwybr Gofal, Cynllunio’r Gweithlu a Mesurau Ansawdd a Chanlyniadau’.
Roedd Endometriosis Cymru yn brosiect cydweithredol dan arweiniad GIG Cymru a Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Thriniaeth Deg i Ferched Cymru. Yn ogystal â sicrhau bod yr adnoddau’n berthnasol, yn llawn gwybodaeth ac yn cefnogi ein cymunedau o gleifion, mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i helpu i gyflawni argymhellion adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, yn benodol er mwyn:
Darparu gwybodaeth
- Rhoi gwybod i bobl yng Nghymru am endometriosis drwy wybodaeth ffeithiol, ystadegau a deunyddiau gweledol
- Adrodd straeon pobl sydd â phrofiad byw o endometriosis fel y gall y teulu, ffrindiau, athrawon, cyflogwyr, meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol werthfawrogi effaith y cyflwr hwn
Hwyluso’r gwaith o geisio cael cymorth meddygol priodol
- Sicrhau bod pobl yn gwybod pryd i geisio cymorth meddygol sy’n ymwneud ag endometriosis yn unol â chanllawiau NICE
- Datblygu traciwr symptomau a allai helpu pobl i esbonio eu problemau’n glir i feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill pan fo angen
- Helpu pobl i ddeall y camau gwahanol yn y llwybr gofal meddygol
Cefnogi pobl sy’n byw gydag endometriosis
- Esbonio gwahanol agweddau ar ymdopi ag endometriosis
- Annog pobl i siarad yn rhydd am eu cyflwr, eu symptomau a’u profiad o fyw gydag endometriosis
- Disgrifio’r cymorth ymarferol y gallai pobl ag endometriosis ei gael
Mabwysiadu dulliau meithrin ewyllys gan gynnwys
- Defnyddio’r celfyddydau creadigol i greu empathi drwy brosiectau celfyddydol wedi’u cyd-gynhyrchu rhwng artistiaid a phobl sydd â phrofiad o fyw gydag endometriosis
- Datblygu adnoddau a all helpu i feithrin empathi tuag at bobl ag endometriosis