Mewn achosion prin, mae’n bosib y bydd eich meddyg yn trafod llawdriniaeth fwy radical gyda chi, sy’n cynnwys tynnu rhai organau atgenhedlu neu organau eraill. Mae’n bosib y bydd eich meddyg yn ystyried yr hyn a gaiff ei alw’n ‘llawdriniaeth radical’. Mae hyn yn golygu tynnu un neu fwy o’ch organau yn llwyr. Mae dau brif fath o ‘lawdriniaeth radical’ a gaiff eu cysylltu’n aml ag endometriosis.
- Hysterectomi
- Oofforectomi
Mae hysterectomi yn cynnwys tynnu’r groth ac organau eraill, yn ddibynnol ar y math o hysterectomi.
- Hysterectomi llwyr (y groth a’r serfics)
- Hysterectomi is-lwyr (dim ond y groth)
- Hysterectomi llwyr gydag salpingo-oofforectomi (y groth, serfics, tiwbiau ffalopaidd a’r ofarïau)
- Hysterectomi radical (y groth a’r meinwe amgylchynol, tiwbiau ffalopaidd, rhan o’r fagina, ofarïau, chwarennau lymff, meinwe frasterog)
Llawdriniaeth i gael gwared â’r ofarïau yw oofferectomi. Mae oofforectomi unochrog yn tynnu un, ac mae oofforectomi dwyochrog yn tynnu’r ddwy. Ar ôl tynnu’r ddwy ofari, byddwch chi’n mynd i mewn i’r menopos ar unwaith os nad ydy hynny wedi digwydd i chi eisoes.
Mae’r ofarïau’n cynhyrchu hormonau a welwyd eu bod yn chwarae rôl mewn sbarduno symptomau’r clefyd. Os nad yw’r ofarïau yno bellach i gynhyrchu’r hormonau yma, ystyrir bod modd lleihau effaith symptomau endometriosis. Mae symptomau rhai pobl wedi lleddfu drwy dynnu eu ofarïau ynghyd â’r groth. Serch hynny, mae llawer o faterion i’w hystyried wrth feddwl am gael oofforectomi.
Mae ffyrdd llai parhaol o leihau’r hormonau yma nad yw’n cynnwys tynnu’r ofarïau. Efallai y byddwch am ystyried yr opsiynau yma gyda’ch ymgynghorydd cyn penderfynu ar oofforectomi.
Nid yw hysterectomi llawn bob amser yn datrys problemau mae endometriosis wedi’u hachosi yn y gorffennol. Mae llawer o bobl yn adrodd am symptomau’n parhau, a gaiff eu hachosi drwy greithiau neu niwed i organau eraill fel y coluddyn. Gall y menopos achosi symptomau mae llawer yn eu cael yn anodd i’w rheoli, fel blinder, sychder y fagina, a phyliau poeth. Gall hyn fod yn arbennig o anodd i bobl sydd wedi cael llawdriniaeth yn ifanc ac sydd heb bobl o’u cwmpas nhw sy’n profi’r un teimladau ar yr un adeg.
Mae’n bwysig cofio bod profiad pawb yn wahanol, a bod llawer o bobl y mae wedi llwyddo i leddfu eu symptomau endometriosis yn sylweddol drwy driniaethau llai parhaol. Mae’r rhain yn cynnwys triniaethau hormonaidd, ffisiotherapi wedi’i thargedi, neu drwy gael llawdriniaeth i dynnu endometriosis. Gall siarad gyda phobl eraill sydd wedi cael yr un profiadau â chi fod o gymorth, yn ogystal â thrafod y risgiau meddygol a’r manteision gyda’ch ymgynghorydd.
Cyflawnir yr holl lawdriniaethau yma o dan anesthetig cyffredinol. Mae’n bosib y bydd meddyg yn ystyried oofforectomi neu hysterectomi am nifer o resymau, ond does dim modd dad-wneud yr un o’r ddwy lawdriniaeth. Dylech drafod manteision ac anfanteision unrhyw lawdriniaeth gyda’ch llawfeddyg. Mae’n bwysig cofio bod pob llawdriniaeth yn cyflwyno risg y dylech ei hystyried a’i thrafod gyda’ch ymgynghorydd cyn penderfynu ar lawdriniaeth.