Ffisiotherapi pelfig

Strwythur rhwng y cluniau yw’r pelfis. Grŵp o gyhyrau yw llawr y pelfis, sy’n cefnogi’r bledren, y coluddyn a’r groth.  

Beth yw Ffisiotherapi Pelfig?

Mae ffisiotherapi pelfig yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw broblemau pelfig neu llawr y pelfis allai fod gennych chi, fel poen yn yr ardal honno, problemau sy’n effeithio ar y bledren neu’r coluddyn, neu’r ddau. Mae’n fath o therapi sy’n trin y cyhyrau, y nerfau a’r meinweoedd yn ardal y pelfis.  Gallai’r technegau gynnwys, er enghraifft, therapi llaw neu gorfforol a roddir gan ffisiotherapyddion ac arweiniad ar gyfer ymarferion llawr y pelfis y byddech chi’n eu gwneud eich hunain.  

Ar gyfer cleifion â phoen pelfig cronig, gallai triniaeth gynnwys rhaglen o ymarferion i ailhyfforddi cyhyrau llawr y pelfis. Yn aml, mae cyhyrau llawr y pelfis yn rhy dynn gan gleifion endometriosis, gan eu bod wedi’u clensio nhw’n anymwybodol mewn ymateb i boen. Gall hyn gyfrannu at boen pelfig, felly byddech chi’n cael eich dysgu sut i ymlacio’r cyhyrau yma.

Mae ffisiotherapi llawr y pelfis wedi dangos manteision gwirioneddol a diriaethol i fenywod sy’n profi poen pelfig, gan gynnwys endometriosis ac ar ôl llawdriniaeth, ond mae angen mwy o ymchwil. Gallai ffisiotherapi helpu i leihau poen sensitifrwydd canolog, sy’n digwydd pan fydd eich profiadau o boen yn gwneud eich ymennydd a’ch corff yn fwy sensitif i signalau poen. Drwy helpu i leihau sensitifrwydd poen, gallai ffisiotherapi helpu i gyfyngu neu atal effeithiau iechyd eraill a achosir gan boen pelfig cronig heb ei rheoli (e.e. anhawster yn sefyll neu’n eistedd, mynd i ddigwyddiadau teuluol, cymdeithasol a chwaraeon) sy’n gallu cael effaith negyddol sylweddol ar ansawdd bywyd.

Mae’n bwysig nodi bod y dull trin ffisiotherapi pelfig yn debygol o fod yn wahanol i bob unigolyn, yn dibynnu ar eu hanghenion.  

Gyda chyflyrau fel endometriosis, gallai hefyd gynnwys gweithio gydag aelodau eraill o’r tîm ffisiotherapi pelfig amlddisgyblaethol i gyflawni’r canlyniad hirdymor gorau i chi.  Gallai’r tîm yma gynnwys arbenigwyr mewn rheoli poen pelfig cronig, dietegwyr, seicolegwyr a chwnselwyr.

Gallai triniaethau hefyd gynnwys asesu a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau gyda’r bledren, y coluddyn neu ryw, a gwella gweithrediad eich pelfis a’r cyhyrau llawr y pelfis.  

Gallai Ffisiotherapi Iechyd Pelfig hefyd helpu gyda.

  • Cwymp organau’r pelfis
  • Problemau’r coluddyn
  • Problemau’r bledren gan gynnwys anymataliaeth wrinol
  • Poen pelfig, gan gynnwys poen yn ystod rhyw
  • Iechyd cynenedigol
  • Adfer ar ôl rhoi genedigaeth
  • Adsefydlu llawr y pelfis

Beth mae apwyntiadau ffisiotherapi pelfig yn eu cynnwys?

Byddwch yn cwrdd â Ffisiotherapydd Iechyd Pelfig. Mae ffisiotherapyddion iechyd pelfig yn ffisiotherapyddion arbenigol sy’n gweithio mewn sawl maes, gan gynnwys gofal obstetreg, gynaecolegol, colorectol, ac wroleg.

Fel arfer, bydd eich apwyntiad yn dechrau gyda’r therapydd yn cymryd hanes meddygol llawn. Byddan nhw’n gofyn i chi am eich symptomau ac unrhyw broblemau penodol rydych chi’n eu profi gyda’ch lles pelfig, boed hynny’n boen pelfig yn bennaf neu broblemau iechyd pelfig arall a allai fod yn gysylltiedig ag endometriosis, fel anymataliaeth wrinol neu’r coluddyn, rhwymedd, meinwe craith, neu ryw poenus. Byddan nhw’n trafod eich blaenoriaethau gyda chi a beth rydych chi eisiau ei gyflawni o’ch apwyntiadau.  

Yna bydd eich ffisiotherapydd pelfig yn eich asesu, a all weithiau gynnwys archwiliad mewnol lle bo’n briodol. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i ddeall pa ffactorau sy’n cyfrannu at eich problem, a gweithio gyda chi i greu cynllun triniaeth wedi’i deilwra i’ch anghenion unigol.

Sut galla i gael mynediad at Ffisiotherapi Pelfig?

Fel arfer, bydd angen i chi ofyn i’ch Meddyg Teulu, ymgynghorydd neu nyrs endometriosis arbenigol i’ch atgyfeirio chi i’r hyn y bydd eich bwrdd iechyd yn ei alw’n Ffisiotherapydd Iechyd Menywod neu’n Ffisiotherapydd Iechyd Pelfig neu Llawr y Pelfis.

Yn anffodus, ni chaiff ffisiotherapi yn benodol ar gyfer endometriosis ei ddarparu ledled Cymru, ac ar hyn o bryd mae gwahanol Fyrddau Iechyd yn darparu gwahanol wasanaethau.  Gweler tudalennau ffisiotherapi y Byrddau Iechyd unigol isod i gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth gwasanaeth ffisiotherapi pelfig yn eich ardal:  

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i ffisiotherapydd iechyd pelfig ar gael yn y cyfeiriaduron isod:

Ffisiotherapyddion | POGP (thepogp.co.uk)

Dewch o hyd i ffisiotherapydd iechyd pelfig preifat neu’r GIG (squeezyapp.com)

Rhagor o wybodaeth am Ffisiotherapi Pelfig yng Nghymru

Yn 2018, argymhellodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru y dylai pob claf endometriosis gael mynediad at wasanaethau nad ydynt yn llawfeddygol, fel Ffisiotherapi Pelfig.  

I gydnabod yr angen am ofal amlddisgyblaethol ar gyfer cleifion poen pelfig, ariannodd Llywodraeth Cymru’r gwaith o greu rhwydwaith o Gydlynwyr Iechyd Pelfig a Llesiant ym mhob bwrdd iechyd. Bydd ganddyn nhw gefndir clinigol o ddisgyblaeth briodol, e.e. ffisiotherapi neu reoli poen, ac yn cael y dasg o ddatblygu gwasanaethau ar gyfer eu hardal leol.  

Safbwyntiau llwybrau