Beth yw’r opsiynau trin?

Ar hyn o bryd, does dim iachâd ar gyfer endometriosis, ond mae ystod o driniaethau ar gael i helpu i reoli’r symptomau a lleihau effaith y cyflwr ar fywyd unigolyn.

Mae triniaethau endometriosis yn cwympo i dri chategori – poenladdwyr, triniaethau hormonaidd, a llawdriniaeth. Mae llawer o bobl yn cael budd o gymryd meddyginiaeth a rheoli poen yn unig, ac efallai na fyddai angen, neu eisiau, llawdriniaeth arnyn nhw os yw eu symptomau’n cael eu rheoli. Bydd y triniaethau a dderbynnir yn dibynnu ar ddifrifoldeb symptomau unigolyn, eu hamgylchiadau a’u dewisiadau personol, ac unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol sydd ganddyn nhw.

Poenliniarydd (poenladdwyr)

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cynnig rhyw fath o leddfwr poen pan fyddan nhw’n mynd at feddyg gyda symptomau. Efallai mai rhywbeth sy’n gweithredu ar nerfau poen fyddai hyn (fel parasetamol) neu sy’n lleihau llid (fel ibuprofen). Mae meddyginiaethau hefyd i’w cael sy’n helpu i leihau gwaedu trwm, os mai dyma un o’r prif symptomau.

Niwrofodylyddion (gwrthiselyddion)

Weithiau, mae pobl sy’n dioddef â phoen cronig yn cael dosau isel o feddyginiaethau gwrth-iselder neu gwrth-bryder. Os rhagnodir cyffur gwrth-iselder i rywun ar gyfer eu symptomau endometriosis, nid yw’n golygu bod eu meddyg yn meddwl eu bod nhw’n isel neu eu bod yn dychmygu eu symptomau. Caiff niwrofodylyddion eu rhagnodi gan amlaf fel meddyginiaeth gwrth-iselder, ond gyda dos isel gellir ei ddefnyddio i drin mathau penodol o boen nerfol.

Ffisiotherapi Pelfig

Yn 2018, argymhellodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru y dylai pob claf endometriosis gael mynediad at wasanaethau nad ydynt yn llawfeddygol, fel Ffisiotherapi Pelfig.  

Mae ffisiotherapi pelfig yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw broblemau pelfig neu llawr y pelfis allai fod gennych chi, fel poen yn yr ardal honno, problemau sy’n effeithio ar y bledren neu’r coluddyn, neu’r ddau. Mae’n fath o therapi sy’n trin y cyhyrau, y nerfau a’r meinweoedd yn ardal y pelfis.  Gallai’r technegau gynnwys, er enghraifft, therapi llaw neu gorfforol a roddir gan ffisiotherapyddion ac arweiniad ar gyfer ymarferion llawr y pelfis y byddech chi’n eu gwneud eich hunain. Mae gennym dudalen lle gallwch ddarllen mwy am ffisiotherapi pelfig.

Meddyginiaethau a dyfeisiau hormonaidd

Mae’n bosib y bydd meddyg yn defnyddio meddyginiaeth sy’n gweithredu ar lefelau hormonau i arafu twf endometriosis. Nod hyn yw cadw lefelau hormonau yn sefydlog, gan osgoi’r amrywiadau sy’n digwydd gyda’r cylch mislif arferol. Mae’n debyg bod endometriosis yn cael ei waethygu pan fydd yn dod i gysylltiad â’r hormon estrogen yn benodol. Mae llawer o driniaethau hormonau wedi’u dylunio i leihau lefel yr estrogen yn y corff yn uniongyrchol. Yn ei dro, gall hyn leihau symptomau ac atal gweithgarwch yr afiechyd.

Gall meddyginiaeth hormonaidd arafu clefyd endometriosis rhag gwaethygu, ond ni fydd yn ei atal yn llwyr, nac yn gwella’r clefyd sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn golygu na all hormonau wella’r problemau mae endometriosis eisoes wedi’u hachosi, na’r problemau a all eu hachosi yn y dyfodol drwy fod y clefyd yn gwaethygu dros amser (e.e. anffrwythlondeb).

Llawdriniaeth

Mae rhai pobl yn teimlo nad yw meddyginiaeth wrth ei hunan yn rheoli eu symptomau, neu fod y feddyginiaeth yn dod yn llai effeithiol dros amser. Mae rhai pobl hefyd yn teimlo bod sgil-effeithiau triniaethau hormonaidd yn rhy anodd eu rheoli, neu nad yw’r rhyddhad maen nhw’n ei gael yn ddigon i gyfiawnhau’r sgil-effeithiau. Yn yr achosion yma, gellid ystyried llawdriniaeth i drin y clefyd.

Safbwyntiau Cleifion

Mae’r safbwyntiau cleifion yn dod o gyfweliadau â chleifion endometriosis ac arolwg 2018

  • Er bod gan mam endometriosis, mae hi o genhedlaeth lle nad ydy hi erioed wedi siarad am y peth . . . Dw i’n gwybod iddi gael cymhlethdodau, ond dim ond pan glywodd hi fod gen i endometriosis wnaeth hi droi ata i a dweud ‘O ie, roedd gen i hwnna’. Mae’n rhyfedd nad oedd pobl o’i chenhedlaeth hi’n siarad am y peth.

     

  • Roedd bywyd yn mynd yn anoddach, roedd tasgau bob dydd yn dod yn anodd, doedd poenladdwyr dros y cownter ddim yn gweithio, roedd y blinder yn golygu fy mod i’n mynd i’r gwaith ac yn cysgu ac yn gwneud dim byd arall. Roedd fy ansawdd bywyd yn gwaethygu.

     

Safbwyntiau llwybrau

Mae endometriosis yn effeithio ar bobl yn wahanol iawn. Fydd neb yn cael yr union brofiad â rhywun arall.