Tybed oes gen i endometriosis?

Mae cael diagnosis o endometriosis yn gallu bod yn brofiad rhwystredig. Mae’r cyflwr ei hunan yn ymddangos yn wahanol mewn cleifion gwahanol, ac mae modd camgymryd y symptomau am gyflyrau eraill. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi dracio eich symptomau er mwyn i chi allu dangos i’r meddyg.

Yng Nghymru, mae llwybr diagnosis yn cael ei gyflwyno sy’n rhoi gwybod i’ch meddyg sut i fynd ati i chwilio am ddiagnosis.

Gan fod endometriosis yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, mae’r Llwybr Diagnosis yn cynnwys nifer o gamau tuag at ddiagnosis, gan gynnwys archwiliad pelfig ac uwchsain.

Os oes unrhyw rai o’r profion yma’n dod yn ôl yn normal (gan olygu na chafwyd hyd i endometriosis), dydy hynny ddim yn golygu o reidrwydd nad oes gennych chi endometriosis. Mae hynny gan nad yw endometriosis bob amser yn dangos ar sganiau.

Yr unig ffordd o wybod i sicrwydd nad oes gennych chi endometriosis yw gyda laparosgopi diagnostig. Llawdriniaeth o dan anesthetig cyffredinol yw hwn (byddwch chi’n cysgu yn ystod y llawdriniaeth). Bydd y gynaecolegydd yn gwneud toriadau bach yn eich abdomen (bol) ac yna’n ei chwyddo gyda nwy arbennig er mwyn iddyn nhw allu gweld yn fwy clir beth sy’n digwydd. Bydd teclynnau, gan gynnwys camera, yn cael eu rhoi drwy’r toriadau, fel bod modd i’r llawfeddyg weld a thrin unrhyw glefyd maen nhw’n dod o hyd iddo. Efallai y byddan nhw hefyd yn tynnu darnau o feinwe i’w hanfon at labordy i gadarnhau’r diagnosis.

Cyn cael y llawdriniaeth yma, efallai y bydd modd i’ch meddyg wneud diagnosis tebygol o endometriosis yn seiliedig ar eich symptomau. Efallai y byddan nhw hefyd yn defnyddio sganiau fel sgan uwchsain traws-faginol i’w helpu nhw i wneud diagnosis, ond nid yw’r rhain yn derfynol. Weithiau, bydd sganiau fel hyn yn dangos codennau endometrioma yn yr ofarïau.

Mae codennau endometrioma yn aml yn arwydd o glefyd mwy difrifol. Efallai y bydd y llawfeddyg yn cynnig llawdriniaeth i chi er mwyn tynnu’r goden a thrin unrhyw fannau eraill y mae endometriosis yn effeithio arnyn nhw. Gan fod codennau endometrioma yn gyffredinol yn gysylltiedig â chlefyd mwy difrifol, dylid perfformio’r llawdriniaethau yma gan lawfeddyg arbenigol endometriosis mewn canolfan drydyddol. Mae canolfannau trydyddol arbenigol yn darparu tîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys llawfeddygon coluddyn, wrolegwyr, arbenigwyr rheoli poen, a nyrsys endometriosis i ymdrin â chlefyd sy’n effeithio ar wahanol organau yn y corff.

Mae endometriosis yn gymhleth, a gall ymddangos mewn llawer o wahanol ffyrdd a llefydd yn y corff, gan ei gwneud hi’n anodd gwneud diagnosis. Mae hefyd angen arbenigedd gan arbenigwr er mwyn gallu adnabod endometriosis ac adlyniadau ar sganiau.

Diagnosis endometriosis yn y glasoed

Mae diagnosis a thriniaeth ar gyfer endometriosis yn ystod yr arddegau yn dilyn llwybr tebyg i oedolion, heblaw efallai nad yw rhai archwiliadau, profion a thriniaethau yn addas neu’n dderbyniol (e.e. archwiliad faginol neu refrol, llawdriniaeth). Dylid trafod opsiynau a thriniaethau diagnostig gyda’ch meddyg i nodi beth fyddai’n gweithio orau ar gyfer eich sefyllfa.

Safbwyntiau Cleifion

Mae’r safbwyntiau cleifion yn dod o gyfweliadau â chleifion endometriosis ac arolwg 2018

  • Es i at y meddyg am y tro cyntaf yn 2006. Roeddwn i wedi bod yn dioddef ers yn llawer hirach na hynny, ond dyna oedd y pwynt lle ro’n i’n gwybod bod yn rhaid i fi wneud rhywbeth am y boen barhaus ro’n i ynddi. Roeddwn i wedi dioddef poen, bydden i’n dweud, ers dwy neu dair mlynedd cyn hynny, ond heb fynd at y meddyg. Roeddwn i bob amser wedi cael mislif ofnadwy, felly doeddwn i ddim yn meddwl bod hynny’n anarferol.

  • Pan ddywedwyd wrtha i, ‘Dyma sy’n digwydd i ti,’ roedd y rhyddhad yn anhygoel, achos meddyliais i – wel, nawr dw i’n gwybod nad yn fy mhen mae hyn.

  • Cyn y diagnosis, ro’n i’n teimlo’n ofnadwy o rwystredig, yn anobeithiol, ac yn ddi-glem ar adegau, heb wybod mewn gwirionedd beth oedd yn digwydd gyda fy nghorff, heb allu ei wella.

Safbwyntiau llwybrau

Bydd eich meddyg yn edrych am symptomau hysbys, ac yn dilyn y llwybr diagnosis. Gall dyddiadur poen a symptomau helpu’r trafodaethau.