Llwybr Diagnosis

Canllaw cam wrth gam i helpu meddygon i nodi neu drin clefyd penodol yw’r llwybr diagnosis. Mae’n rhoi gwybod iddyn nhw pa opsiynau sydd ar gael i’w claf a ble allai fod angen eu cyfeirio nhw nesaf. Mae’n gallu bod yn anodd iawn gwneud diagnosis o endometriosis, gan nad yw’n amlygu ei hunan yn yr un ffordd ym mhob claf.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi cynhyrchu canllawiau newydd cynhwysfawr ar wneud diagnosis a thrin endometriosis. Cyhoeddwyd y canllawiau terfynol ym mis Medi 2017.  Yng Nghymru, mae ganddon ni lwybrau sydd wedi’u seilio ar argymhellion NICE, ond gyda chyngor ychwanegol penodol i Gymru, a argymhellwyd yn adroddiad 2018 y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n bwysig cofio, os yw un o’r camau cynnar ar y llwybr diagnosis yn dangos canlyniadau normal, mae’n dal yn bosib bod endometriosis gennych chi. Dim ond profi bod gennych chi endometriosis gall yr archwiliadau a’r sganiau ei wneud, nid profi nad oes gennych chi endometriosis, ac felly dylech symud at y cam nesaf ar y llwybr.

  1. Mae gennych symptomau endometriosis

    Mae endometriosis yn gyflwr anodd i wneud diagnosis ohono, gan fod cymaint o’r symptomau sy’n gysylltiedig â’r clefyd yn gallu bod yn symptomau o glefydau eraill.

    Os yw eich symptomau’n gwaethygu ar adegau gwahanol yn ystod eich cylchred fisol, gallai hyn fod yn arwydd o endometriosis.

    Mae cadw log neu ddyddiadur yn gallu eich helpu i nodi sut mae eich poen a’ch symptomau’n newid yn ystod eich cylchred. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol iawn pan ddaw at siarad am eich symptomau gyda meddyg.

     

  2. Archwiliad abdomen neu belfig

    Archwiliad abdomen neu belfig i wirio am chwydd neu dynerwch anarferol, ynghyd ag unrhyw arwyddion gweladwy o’r clefyd.

    Cofiwch, os yw’r archwiliadau yma’n dod â chanlyniadau normal, dydy hynny ddim yn golygu nad oes gennych chi endometriosis – dim ond nad yw’n weladwy o’r archwiliad yma.

     

  3. Sgan Uwchsain

    Hyd yn oed os oedd eich archwiliad pelfig a/neu abdomen yn normal, mae’n bosib y bydd eich meddyg yn argymell sgan uwchsain i edrych am arwyddion sy’n gysylltiedig ag endometriosis.

    Cofiwch, os yw’r sgan uwchsain yn ymddangos yn normal, dydy hynny ddim yn golygu nad oes gennych chi endometriosis – dim ond nad yw’n weladwy o’r archwiliad yma.

     

  4. MRI Pelfig

    Math o sgan sy’n cymryd nifer o luniau o’r tu mewn i ardal eich pelfis yw’r MRI Pelfig. Mae’n gallu dangos organau fel eich croth, eich pledren a’ch coluddyn. Nid yw’r sgan yn boenus, a does dim ymbelydredd.

    Fel arfer, bydd gofyn i gleifion orwedd yn llonydd ar eu cefn ar fwrdd cul a fydd yna’n llithro i mewn i’r peiriant MRI i ddechrau tynnu lluniau. Gall MRI pelfig eich helpu chi i nodi graddau endometriosis dwfn sy’n cynnwys y coluddyn, y bledren neu’r wreter. Bydd y sganiwr MRI yn gwneud synau tapio swnllyd ar adegau penodol yn ystod y broses. Byddwch yn cael plygiau clust neu glustffonau i’w gwisgo. Mae mwy o wybodaeth am y driniaeth ar gael yma. 

    Dylai sganiau MRI gael eu dehongli gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n arbenigo mewn delweddu gynaecolegol.

    Cofiwch, os yw’r MRI yn ymddangos yn normal, dydy hynny ddim yn golygu nad oes gennych chi endometriosis – dim ond nad yw’n weladwy o’r archwiliad yma. Am y rheswm yma, os yw’r MRI yn ymddangos yn normal, efallai y bydd eich meddyg yn dal i’ch atgyfeirio at asesiad pellach os ydyn nhw’n dal i amau endometriosis neu os yw eich symptomau’n parhau.

     

  5. Laparosgopi Diagnostig

    Llawdriniaeth twll clo yw laparosgopi, lle defnyddir camera i weld y tu mewn i’ch pelfis. Laparosgopi yw’r ffordd fwyaf dibynadwy o wneud diagnosis o endometriosis. Fel arfer byddwch chi’n cael eich rhoi i gysgu (“o dan anesthetig”) wrth i’r llawdriniaeth ddigwydd, sy’n golygu na fydd modd i chi weld na theimlo dim wrth iddi ddigwydd.

    Bydd gynaecolegydd medrus sydd wedi’u hyfforddi mewn llawdriniaeth laparosgopig ar gyfer endometriosis yn archwilio y tu mewn i’ch pelfis yn ofalus, ac yn gwirio’r organau sydd y tu mewn iddo.

    Yn ystod laparosgopi diagnostig, mae’n bosib y bydd eich llawfeddyg yn cymryd sampl fach o gelloedd o’ch pelfis a’u hanfon i’w profi am endometriosis yn nes ymlaen.

    Cofiwch, mae’n gallu bod yn anodd weithiau i lawfeddygon ddod o hyd i endometriosis, yn enwedig mewn cleifion ifanc nad ydyn nhw’n dangos arwyddion cyffredin endometriosis (e.e. endometriomas). Er enghraifft, efallai bydd briwiau mewn pobl ifanc yn llai amlwg ac felly’n anoddach eu gweld.  Nid yw’r anhawster yma’n golygu nad yw eich symptomau’n real neu nad ydyn nhw’n cael effaith ar eich bywyd. Efallai y byddwch chi’n elwa ar roi cynnig ar opsiynau triniaeth arall neu geisio ail farn yn nes ymlaen, a pharhau i gael trafodaethau gyda’ch meddyg neu weithiwr gofal iechyd.

  6. Ai endometriosis sydd gen i?

    Gall endometriosis fod yn glefyd anodd i’w adnabod, yn enwedig os nad ydych chi wedi gweld arbenigydd endometriosis neu os ydych chi’n ifanc, gan fod pobl ifanc yn gallu dangos symptomau gwahanol i oedolion. Er enghraifft, efallai bydd briwiau mewn pobl ifanc yn llai amlwg ac felly’n anoddach eu gweld.  Os caiff gwiriad trylwyr o’ch pelfis ei wneud drwy laparosgopi a bod popeth yn ymddangos yn normal, bydd eich meddyg yn dod i’r casgliad nad oes gennych chi endometriosis.

    Mae’n bosib y byddwch chi’n teimlo wedi’ch drysu os ydych chi’n clywed nad oes endometriosis gennych chi ar ôl laparosgopi, yn enwedig os ydych chi’n dal i brofi symptomau heb achos pendant. Mae’n werth cofio bod yna gyflyrau iechyd eraill sydd â symptomau cyffredin ag endometriosis. Mae’n bwysig trafod diagnosis amgen a ffyrdd o reoli symptomau gyda’ch meddyg.

    Efallai y byddwch chi’n dymuno ceisio cyngor pellach neu ail farn os ydych chi’n parhau i brofi symptomau heb syniad clir o beth sy’n eu hachosi.

  7. Camau

    Os cewch ddiagnosis o endometriosis, dylai eich gynaecolegydd greu disgrifiad manwl o unrhyw annormaleddau y daethon nhw o hyd iddyn nhw. Bydd hyn yn cynnwys ble yn eich corff canfuwyd adlyniadau, smotiau neu ardaloedd o endometriosis. Weithiau bydd y llawfeddyg yn cofnodi hyn fel cam 1 i 4. Mae’r camau yma’n ymwneud â system ddosbarthu a ddatblygwyd ar sail effaith ar ffrwythlondeb. Mae’r camau yma’n ymwneud â maint a thrwch unrhyw adlyniadau neu feinwe craith, tu mewn i’ch pelfis, yn enwedig ar yr ofarïau.

    • Mae Cam 1 yn awgrymu bod lefel y clefyd yn llai difrifol heb lawer o effaith ar ffrwythlondeb.
    • Mae Cam 4 yn awgrymu adlyniadau neu feinwe craith mwy trwchus a’ch bod yn fwy tebygol o brofi anffrwythlondeb.

    Mae’r system gamau yn asesu effaith y clefyd ar eich gallu i feichiogi, ac nid graddau eich symptomau. Mae’n bwysig iawn cofio nad yw’r camau yma’n cyd-fynd â lefel y boen rydych chi’n ei phrofi. Gall claf ag endometriosis Cam 1 weithiau fod mewn llawer mwy o boen na chlaf ag endometriosis Cam 4. Mae’n bwysig nodi nad yw’r camau’n cynnwys rhai mathau o glefyd difrifol, er enghraifft pan fydd yn effeithio ar y coluddyn, y bledren neu’r diaffram. Oherwydd hyn, mae llawer o feddygon yn symud oddi wrth defnyddio’r system gamau i ddisgrifio effaith symptomau endometriosis.