Ar hyn o bryd does dim iachâd ar gyfer endometriosis. Ond mae rhai pethau mae’r meddyg yn gallu eu gwneud fel bod symptomau endometriosis ddim mor ddrwg.

Bydd y meddyg yn siarad gyda ti i weld beth ydy’r driniaeth orau i ti. Er mwyn i chi benderfynu gyda’ch gilydd. 

Dyma restr o’r pethau efallai bydd y meddyg eisiau i ti eu trio:

Poenladdwyr

Meddyginiaeth ydy poenladdwyr sy’n gallu helpu i stopio poen. Rhai enghreifftiau o boenladdwyr efallai bydd y meddyg eisiau i ti eu trio ydy parasetamol ac ibuprofen.

Gwrthiselyddion

Mae gwrthiselydd yn fath o feddyginiaeth mae’r meddyg fel arfer yn ei roi i bobl sy’n teimlo’n drist neu’n isel. Weithiau maen nhw’n gallu helpu pobl sydd ag endometriosis.

Dydy hyn ddim yn golygu bod y meddyg yn meddwl dy fod di’n isel. Weithiau mae gwrthiselyddion yn gallu gwneud endometriosis yn llai poenus.

Gwrthiselyddion

Math o feddyginiaeth y mae meddygon fel arfer yn ei rhoi i bobl sy’n teimlo’n drist neu’n isel eu hysbryd. Weithiau maen nhw’n helpu pobl sydd ag endometriosis.

Triniaeth hormonau

Meddyginiaeth rwyt ti’n gallu ei gymryd ydy triniaeth hormonau. Maen nhw’n newid faint o hormonau sydd yn dy gorff. Mae’r feddyginiaeth yma’n gallu helpu i stopio poen endometriosis.

Hormonau

Mae hormon yn gemegyn arbennig y mae eich corff yn ei wneud. Mae hormonau gwahanol yn helpu i wneud i wahanol rannau o’ch corff weithio

Llawdriniaeth

Rwyt ti’n cael llawdriniaeth yn yr ysbyty. Bydd y meddyg yn rhoi anesthetig i ti er mwyn gwneud i ti gysgu. Pan fyddi di’n cysgu, bydd y meddyg yn tynnu’r rhannau tu mewn i ti sydd ag endometriosis. Fel arfer, fydd y meddyg ddim ond yn gwneud llawdriniaeth os ydy’r endometriosis yn wael iawn ac yn golygu ei bod hi’n anodd i ti fyw dy fywyd.

Anesthetig

Math o feddyginiaeth ydy hwn sy’n gwneud i ti gysgu er mwyn i ti beidio teimlo poen

Mae’r driniaeth rwyt ti’n ei chael yn dibynnu pa mor wael mae dy symptomau. Mae rhai pobl yn teimlo bod poenladdwyr yn ddigon i wneud iddyn nhw deimlo’n well. 

Mae pawb yn wahanol. Efallai bydd triniaeth sy’n gweithio i ti yn wahanol i beth sy’n gweithio i bobl eraill.