Os oes gen ti anabledd dysgu mae’n gallu cymryd mwy o amser i ddarganfod bod gen ti endometriosis.

Efallai bydd pobl ag anabledd dysgu hefyd yn cael mwy o drafferth yn cael gofal iechyd da. Mae hyn oherwydd:

  • Dydy pobl ddim bob amser yn deall sut beth ydy cael anabledd dysgu. Mae hyn yn golygu efallai bod pobl fel y meddyg neu weithiwr iechyd ddim yn egluro pethau mewn ffordd galli di ei deall.
  • Os oes gen ti lawer o ofalwyr neu bobl sy’n dy helpu di efallai fyddan nhw ddim yn gweithio gyda’i gilydd neu gyda dy feddyg i roi’r help gorau i ti.

Os oes gen ti anabledd dysgu dylet ti allu ffeindio’r wybodaeth a’r cymorth gorau am endometriosis. Rydyn ni wedi creu’r wefan yma i helpu pawb i ddysgu am endometriosis er mwyn i bawb sydd ag endometriosis gael yr help a’r gofal gorau.

Rydym wedi creu fersiynau hawdd eu darllen o’r wybodaeth bwysicaf o’r wefan hon.