Straen a iechyd meddwl (hawdd ei ddarllen)
Mae byw gydag endometriosis yn gallu gwneud i ti deimlo’n isel neu’n drist.
Mae endometriosis yn salwch dydy pobl ddim yn gallu ei weld ar y tu allan. Mae’n gallu bod yn anodd byw gyda salwch mae pobl eraill yn methu ei weld. Os oes gen ti endometriosis, mae’n gallu gwneud i ti deimlo’n unig.
Mae endometriosis yn gallu teimlo’n anodd neu godi embaras wrth siarad amdano gyda phobl.
Os oes gen ti endometriosis, efallai na fyddi di’n gallu gweld ffrindiau neu fynd i’r gwaith fel byddet ti fel arfer. Mae hyn yn gallu gwneud i ti deimlo’n unig neu’n drist.
Os wyt ti mewn poen neu os oes gen ti fislif trwm mae’n gallu bod yn anodd cysgu. Mae cysgu’n bwysig iawn ar gyfer iechyd meddwl. Os nad wyt ti’n cysgu’n dda iawn mae hyn yn gallu gwneud i ti deimlo’n waeth.
Iechyd meddwl
Weithiau mae’r meddyginiaeth mae’n rhaid i ti ei gymryd i helpu gyda symptomau endometriosis yn gallu newid dy dymer neu ei gwneud hi’n anodd cysgu.
Cofia ddweud wrth dy feddyg am dy holl symptomau a dy bryderon. Os wyt ti’n poeni am lawer o bethau mae’n gallu gwneud bywyd yn anodd. Dylai dy feddyg siarad gyda ti am bethau sy’n gallu dy helpu di i deimlo’n well.
Gallet ti fynd i grwpiau cymorth i siarad neu gwrdd â phobl sydd ag endometriosis hefyd.