Help a chymorth (hawdd ei ddarllen)
Mae rhai pobl yn hoffi siarad gyda phobl eraill sydd ag endometriosis hefyd. Mae siarad gyda phobl eraill sydd â’r un salwch yn gallu dy helpu di i deimlo’n llai unig.
Gallet ti fynd i grwpiau cymorth i siarad neu gwrdd â phobl sydd ag endometriosis hefyd.
Grwpiau cymorth
Grwpiau o bobl sy’n helpu ei gilydd ydy grwpiau cymorth
Weithiau mae gan y grwpiau cymorth weithgareddau i bawb wneud gyda’i gilydd. Fel mynd am dro neu fynd i’r caffi.
Galli di ddarllen mwy am grwpiau cymorth yn agos i ble rwyt ti’n byw yma.
Yng Nghymru, mae yna sefydliad o’r enw Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, neu FTWW ydy’r enw byr.
Sefydliad
Grŵp o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd
Cafodd FTWW ei greu ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru ac sydd angen cyngor neu help i ddelio gyda’u gwasanaeth iechyd lleol.
I ddysgu mwy cer i Triniaeth Deg i Fenywod Cymru