Os ydy endometriosis yn cael effaith fawr ar dy fywyd, efallai byddi di’n gallu hawlio PIP. Mae PIP yn golygu Taliad Annibyniaeth Personol. Budd-dal ar gyfer pobl anabl ydy hwn.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dy asesu. Er mwyn gweld os ydy dy endometriosis yn golygu dy fod ti’n anabl, cyn i ti gael PIP.

Mae mwy o wybodaeth yn trafod ydy endometriosis yn anabledd yma

Os wyt ti’n gallu hawlio PIP, mae’n gallu dy helpu di i dalu am bethau sydd eu hangen, fel.

  • mwy o gynnyrch mislif – fel tampons a phadiau
  • neu dy helpu di i dalu am dacsis i fynd i’r gwaith a dod adre

Rwyt ti’n gallu cael PIP os wyt ti’n mynd i’r gwaith neu os wyt ti ddim yn mynd i’r gwaith. 

Rwyt ti’n gallu cael PIP os oes gen ti arian wedi’i safio yn y banc. 

Mae gan y llywodraeth fwy o wybodaeth hawdd ei darllen am PIP ar eu gwefan. Galli di ddarllen mwy am PIP yma.

Os na allwch weithio efallai y byddwch hefyd yn gallu cael arian gan y llywodraeth o’r enw Credyd Cynhwysol

Mae hwn yn fath gwahanol o daliad gan PIP.

Mae gan y llywodraeth fwy o wybodaeth hawdd ei darllen am Gredyd Cynhwysol ar eu gwefan. Galli di ddarllen mwy am Credyd Cynhwysol yma.

Mae mwy o wybodaeth am arian ychwanegol sydd efallai ar gael i ti ar.