Efallai byddi di’n teimlo nad yw’r gofal iechyd rwyt ti’n ei gael ar gyfer dy symptomau endometriosis, neu broblemau iechyd eraill, yn ddigon da. 

Os wyt ti’n poeni am dy ofal neu dy driniaeth y peth cyntaf dylet ti ei wneud ydy siarad gyda’r bobl sy’n rhan o dy ofal.  Fel y meddyg neu weithiwr iechyd.

Beth i’w wneud os nad wyt ti’n hapus gyda dy ofal ysbyty.

Byrddau Iechyd yw’r sefydliadau sy’n gyfrifol am bob ysbyty yng Nghymru.

Sefydliadau

Grwpiau o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd

Mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru Wasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion. Enw arall ar hwn ydy PALS. 

Mae PALS yn rhoi cyngor a chefnogaeth i staff a chleifion ysbyty a’u ffrindiau a’u teulu. Mae PALS yn gallu helpu gyda chwestiynau neu bryderon sydd gen ti am dy ofal.  

Galli di ysgrifennu at PALS, neu siarad gyda nhw ar y ffôn, neu siarad gyda rhywun wyneb yn wyneb. Bydd angen i ti ffeindio pa un ydy dy Fwrdd Iechyd di cyn i ti wybod sut i siarad gyda PALS.

Beth i’w wneud os nad wyt ti’n hapus gyda dy feddyg teulu neu dy feddygfa

Os nad wyt ti’n hapus gyda’r gofal rwyt ti wedi’i gael gan dy feddyg teulu dylet ti ddweud wrthyn nhw yn gyntaf. Os nad ydy hyn yn datrys dy broblem galli di siarad gyda dy Fwrdd Iechyd. 

Galli di ffeindio enw dy Fwrdd Iechyd ar wefan GIG Cymru yma.

Yng Nghymru mae gan y GIG wasanaeth ar gyfer cwynion o’r enw ‘Gweithio i Wella’. Mae’r llywodraeth wedi creu taflen hawdd ei darllen am ‘Gweithio i Wella’ galli di ei darllen yma.

Os wyt ti eisiau i ffrind neu aelod teulu neu rywun arall sy’n dy helpu di i wneud cwyn am dy ofal bydd rhaid i ti roi caniatâd ysgrifenedig iddyn nhw wneud hyn.  

Caniatâd ysgrifenedig

Ydy pan fyddi di’n ysgrifennu llythyr neu e-bost at rywun i ddweud bod rhywun arall yn cael siarad ar dy ran.

Mae yna sefydliad annibynnol yng Nghymru o’r enw Llais sy’n gallu dy helpu di gyda chwynion am dy ofal iechyd. Mae Llais wedi creu taflen hawdd ei darllen am beth maen nhw’n ei wneud a galli di ei darllen yma. 

annibynnol

Mae annibynnol yn golygu nad ydyn nhw’n cael eu rheoli gan y gwasanaethau iechyd

Mae gan Llais daflenni gwybodaeth ar eu gwefan am y gwaith maen nhw’n ei wneud. Mae llawer ohonyn nhw mewn fformat hawdd ei ddarllen. Mae’r holl daflenni mae Llais wedi eu hysgrifennu yma