Oes gen i endometriosis? (hawdd ei ddarllen)
Dydy hi ddim bob amser yn hawdd gwybod os oes gen ti endometriosis.
Mae symptomau endometriosis yn gallu bod yn wahanol i bobl wahanol. Mae hyn yn golygu bod endometriosis weithiau’n cael ei gymysgu am salwch arall.
Efallai bydd y meddyg eisiau gwneud profion meddygol i weld os oes gen ti endometriosis.
Gall eich meddyg wneud rhai o’r profion hyn tra byddwch yn effro felly ni fydd angen anesthetig cyffredinol arnoch.
Anesthetig cyffredinol
Dydy’r profion yma ddim bob amser yn dangos os oes gen ti endometriosis yn sicr.
Yr unig ffordd o wybod yn siŵr os oes gen ti endometriosis ydy cael llawdriniaeth. Byddi di’n mynd i’r ysbyty i gael y llawdriniaeth yma a cael anesthetig cyffredinol.
Mae endometriosis yn salwch cymhleth oherwydd mae’n gallu digwydd mewn gwahanol lefydd yn y corff. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd gwneud diagnosis.
Diagnosis
Os wyt ti’n meddwl bod gen ti endometriosis, mae cadw dyddiadur o dy symptomau i’w ddangos i’r meddyg yn gallu helpu.