Salwch ydy endometriosis. Rwyt ti’n dweud y gair fel en – do – mi – tri – o – sis.

Endometriosis ydy pan mae celloedd sydd fel arfer yn tyfu tu mewn i’r groth, yn tyfu mewn mannau eraill. Fel dy ofarïau.

Celloedd

Pethau bach iawn ydy celloedd sy’n creu pob rhan o’r corff

Oherwydd bod y celloedd yma’n tyfu mewn llefydd ddylen nhw ddim, mae endometriosis yn gallu gwneud i ti deimlo’n sâl iawn.

Mae rhai pobl sydd ag endometriosis yn cael mislif sy’n brifo llawer a phoen yn y bol. Os oes gen ti endometriosis mae’n gallu bod yn anodd cael babi hefyd. Mae hyn oherwydd ei fod yn effeithio ar y rhannau yn dy gorff sy’n creu babi.

Mae endometriosis fel arfer yn effeithio ar bobl rhwng 11 a 45 oed.

Mae endometriosis fel arfer yn y rhannau creu babi, fel y groth a’r ofarïau. Ond mae hefyd yn gallu effeithio ar organau eraill fel y bledren a’r coluddyn a’r tiwbiau ffalopaidd, a hyd yn oed dy ysgyfaint.

Organau

Mae organau tu mewn i dy gorff. Mae organau’n gwneud tasgau penodol i gadw dy gorff i weithio. Er enghraifft mae dy galon yn organ sy’n pwmpio gwaed o gwmpas dy gorff.
  • y bledren ydy’r organ lle rwyt ti’n creu pi-pi

  • y coluddyn ydy’r organ lle rwyt ti’n creu pŵ

  • y tiwbiau ffalopaidd ydy’r organau sy’n cysylltu’r ofarïau gyda’r groth. Mae wyau’n teithio drwy’r tiwbiau ffalopaidd i’r groth.

  • y groth ydy’r organ yn dy gorff sy’n tyfu babis

  • yr ysgyfaint ydy’r organau yn dy frest sy’n dy helpu di i anadlu

Mae’r rhannau yn dy gorff lle mae endometriosis yn gallu brifo, gwaedu, a gwneud i bethau fynd yn fwy a mynd yn sownd yn ei gilydd.  Os oes gen ti endometriosis ers amser hir, efallai bydd yn brifo’n fwy aml.