Mae’n rhaid i dy gyflogwr wneud yn siŵr bod lle rwyt ti’n gweithio yn ddiogel i ti. 

Mae hyn yn golygu os oes gen ti endometriosis dylai dy gyflogwr wneud yn siŵr dy fod di’n ddigon cyfforddus i wneud dy waith. Efallai bod hyn yn golygu gwneud pethau fel.

  • Symud dy ddesg yn fwy agos i’r tŷ bach.

  • Rhoi egwyl i ti yn fwy aml os oes angen i gymryd meddyginiaeth neu newid cynnyrch mislif.

  • Gadael i ti weithio gartref os ydy hyn yn rhywbeth galli di wneud. 

Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd siarad gyda dy gyflogwr am broblemau personol. Mae rhai pethau galli di eu gwneud sy’n ei gwneud hi’n haws siarad gyda dy gyflogwr.

  • Gallet ti ofyn i ffrind neu rywun rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw i ddod gyda ti i dy helpu i siarad gyda dy gyflogwr.

  • Gallet ti siarad gyda dy adran Adnoddau Dynol (HR) i weld beth allan nhw ei wneud i dy helpu.

Adnoddau Dynol

Person neu dîm yn eich gweithle y gallwch siarad â chi os oes gennych unrhyw broblemau yn y gwaith