Mae poen endometriosis fel arfer yn dechrau pan rwyt ti’n berson ifanc yn dy arddegau. 

Mae’r poen yn gallu digwydd ar amseroedd gwahanol. 

  • Pan mae gen ti’r mislif

  • Pan rwyt ti’n cael rhyw

  • Pan rwyt ti’n mynd i’r tŷ bach

Mae llawer o bobl yn mynd at y meddyg am y tro cyntaf oherwydd bod eu poen mor ddrwg.

Mae poen endometriosis yn gallu bod mor anodd nes iddo dy stopio rhag gwneud pethau normal.  Fel mynd i’r ysgol neu’r gwaith. 

Dydy cael poen gwael ddim yn golygu bod y salwch yn waeth tu mewn. Rwyt ti’n gallu cael poen gwael ond heb gael endometriosis gwael.

Rheoli dy boen endometriosis

Os ydy dy boen endometriosis yn wael, bydd y meddyg yn gallu helpu gyda ffyrdd o’i reoli. Mae’n bwysig rheoli dy boen fel dy fod ti’n dal i allu gwneud pethau normal. Fel gweld ffrindiau neu cysgu’n dda.

Mae ganddon ni dudalen arall am yr holl ffyrdd gall y meddyg dy helpu di i reoli poen endometriosis.