Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP)
Os ydych chi’n cymhwyso fel person anabl yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n bosib bod gennych hawl i Daliadau Annibyniaeth Personol (PIP). Taliad ychwanegol gan y Llywodraeth yw hyn, i’ch helpu i dalu’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â bod yn anabl / bod ag amhariad, boed chi’n gweithio ai peidio. Nid yw’r taliadau yma’n seiliedig ar brawf modd, a gallwch weithio a chael PIP, a does dim ots faint yw eich cyflog.
Er enghraifft:
- Os oes gennych chi endometriosis neu adenomyosis difrifol, ac yn dioddef o waedu trwm a hir, efallai y bydd angen cynhyrchion mislif ychwanegol arnoch chi i atal gollwng. Neu olchi’ch dillad yn amlach, sy’n golygu prynu mwy o hylif golchi dillad a biliau trydan uwch.
- Os yw endometriosis yn effeithio ar eich coluddion, efallai y bydd angen i chi wario arian ar sedd toiled arbennig a phapur toiled ychwanegol.
- Os ydych chi’n dioddef â blinder eithafol ac yn gwario arian ar dacsis i gyrraedd y gwaith yn lle ciwio a sefyll ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Os nad oes modd i chi weithio, efallai y bydd modd i chi hawlio cymorth Credyd Cynhwysol. I gael rhagor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol, Taliadau Annibyniaeth Personol, neu fudd-daliadau yn gyffredinol, gallwch fynd i wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Gallwch gael cymorth i hawlio budd-daliadau gan Gyngor ar Bopeth neu Hawliau Lles yn eich awdurdod lleol (eich cyngor) os ydyn nhw’n darparu gwasanaeth o’r fath.
Ni fwriedir i’r wybodaeth hon fod yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol ac ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor cyfreithiol ar unrhyw fater penodol. Nid yw’r awdur na GIG Cymru yn derbyn atebolrwydd am gywirdeb cynnwys y wefan hon, nac am y canlyniadau o ddibynnu arni. At hynny, nid yw darparu dolenni at wefannau eraill yn nodi cymeradwyaeth, cefnogaeth na gwarant o gywirdeb y wybodaeth sydd ar y gwefannau hyn.