Llais – llais cryfach i gleifion Cymru 

Corff statudol annibynnol yw Llais a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys yr adegau hynny pan fydd defnyddwyr gwasanaethau a chleifion am wneud cwyn.  

Er na allan nhw roi cyngor meddygol, mae eiriolwyr cwynion Llais yn gallu mynd â’r hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthyn nhw at ddarparwyr gwasanaethau iechyd i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’ch pryderon. 

Mae gan bob ardal bwrdd iechyd ei thîm ei hunan o eiriolwyr cwynion cymwys a phrofiadol sy’n gallu eich helpu chi drwy’r broses yma. Gallwch ddod o hyd i’ch un chi yma: https://www.llaiscymru.org/yn-eich-ardal 

Yn ogystal â’ch helpu chi gyda chwynion, fel corff statudol, mae’n rhaid i sefydliadau’r GIG, awdurdodau lleol, a darparwyr gofal y trydydd sector wrando ar Llais yn ôl y gyfraith.   

Mae Llais yn arbennig o awyddus i glywed am brofiadau ac anghenion gofal iechyd y rhai sy’n byw â chyflyrau cronig ‘anweledig’ llai adnabyddus fel endometriosis ac adenomyosis, er mwyn iddyn nhw allu mynd ag unrhyw themâu cyffredin at y bobl sy’n gwneud penderfyniadau ym maes iechyd a’r llywodraeth i ofyn iddyn nhw ystyried sut byddai modd gwneud gwelliannau ledled Cymru. 

Lluniwyd y wybodaeth ganlynol i Endometriosis Cymru gan Llais, ac fe’i diweddarwyd ddiwethaf ym mis Mawrth 2024. Cofiwch edrych ar wefan Llais i gael mwy o gynnwys a’r wybodaeth ddiweddaraf.  

Isod, mae Llais yn amlinellu sut mae’r broses o wneud cwyn yn gweithio ac yn cynnwys adran fer o ‘gwestiynau cyffredin’ sy’n trafod pryderon penodol allai fod gennych chi fel rhywun sy’n tybio bod gennych endometriosis neu sydd wedi cael cadarnhad. 

Eich eiriolwr Llais 

Bydd eich cyfarfod cyntaf gyda ni yma yn Llais gydag eiriolwr a fydd wedi’i ddynodi i chi yn seiliedig ar eich lleoliad. Ar ôl i chi ddisgrifio natur eich cwyn a’ch dymuniadau, gallai’r eiriolwr yma newid i rywun arall sy’n fwy addas i’ch dymuniadau, eich anghenion a’ch sefyllfa. Er enghraifft, efallai y byddai’n well gennych chi gael eiriolwr gwrywaidd neu fenywaidd. 

Bydd eich eiriolwr Llais yn eich helpu i wneud cymaint ag y gallwch chi eich hunan, ac yn eich cefnogi chi i wneud eich penderfyniadau eich hunan. Byddan nhw bob amser yn gwirio eich bod chi’n hapus cyn iddyn nhw wneud unrhyw beth ar eich rhan. 

Mae cleifion weithiau’n poeni y bydd pobl eraill yn meddwl bod eu symptomau’n ‘normal’ neu ‘wedi’u dychmygu’. Un o egwyddorion sylfaenol yr hyfforddiant proffesiynol mae eiriolwyr cwynion Llais yn ei gael yw nad ydyn nhw’n eich barnu chi, y profiadau rydych chi’n eu disgrifio iddyn nhw, na haeddiant eich cwyn. Maen nhw yno yn unswydd i’ch helpu chi i godi eich pryderon a’ch cefnogi chi drwy’r broses yna. 

Mae Eiriolwyr Cwynion Llais wedi’u hyfforddi i weithio gyda chi ar gyflymder sy’n addas i chi, er mwyn rhoi’r lefel o gefnogaeth a mewnbwn sydd ei hangen arnoch yn ystod y broses gwyno. Gallai hyn newid wrth i’r broses fynd yn ei blaen. Bydd y berthynas weithio sydd gennych chi gyda’ch eiriolwr hefyd yn addasu yn ôl yr angen.  

Er na allan nhw fynd i apwyntiadau meddygol, gallan nhw fynd gyda chi i gyfarfodydd ynghylch eich cwyn a siarad ar eich rhan os mai dyma yw eich dymuniad. Gallan nhw fynd i gyfarfodydd ar-lein neu wyneb yn wyneb. Bydd eich eiriolwr bob amser yn gwirio eich bod chi’n hapus cyn iddyn nhw wneud unrhyw beth ar eich rhan.  

Eich cyfarfodydd gyda Llais 

Fel arfer, dim ond chi a’r eiriolwr fydd yn y cyfarfod cyntaf. Bydd Llais yn rhoi gwybod i chi os bydd angen i rywun arall fod yno. 

Gall cyfarfodydd ddigwydd wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ar-lein. Bydd ein heiriolwyr cwynion yn ceisio sicrhau bod y cyfarfod yn y lleoliad mwyaf diogel a chyfleus i chi. 

Mae’n werth neilltuo awr ar gyfer y cyfarfod cyntaf, ond gall fod yn fyrrach neu’n hirach os byddai hynny’n well i chi. 

Mae rhai cleifion yn teimlo embaras wrth drafod symptomau. Mae eiriolwyr Llais wedi cael hyfforddiant proffesiynol ac yn brofiadol yn ymdrin â materion personol iawn a allai fod wedi effeithio’n sylweddol arnoch chi’n gorfforol ac yn emosiynol. Pan fyddwch chi’n cwrdd â’ch eiriolwr Llais, dylech deimlo bod modd i chi siarad yn rhydd gyda nhw am faterion iechyd neu ofal cymdeithasol sydd wedi effeithio arnoch chi.  

Yn Llais, wnawn ni ddim dweud wrth neb beth rydych chi wedi’i ddweud wrthon ni yn ein cyfarfodydd heb eich caniatâd. Mae rhai eithriadau i hyn pan fydd pryder diogelu. Er enghraifft, mae’n rhaid i’ch eiriolwr Llais ddweud wrth rywun arall os byddwch chi’n rhannu gwybodaeth sy’n nodi eich bod chi neu rywun arall yn torri’r gyfraith, neu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl. Os bydd angen i ni ddweud wrth rywun arall, byddwn ni’n egluro pam. 

Cwestiynau cyffredin 

Isod mae pryderon cyffredin gan bobl ag endometriosis ynghylch y broses gwyno, gydag ymatebion gan Llais. 

 A fydd fy ngofal iechyd yn gwella ar ôl i fi wneud cwyn? Er enghraifft, a fydda i’n cael yr atgyfeiriadau dw i eu heisiau? 

Mae Llais yn dweud: Mae pob cwyn yn wahanol, a bydd gan gleientiaid ddewisiadau amrywiol ynghylch y canlyniadau maen nhw’n dymuno eu cael. Yn ystod eich trafodaethau gyda’ch eiriolwr cwynion, os bydd yn dod i’r amlwg y dylai rhywbeth fod wedi digwydd yn eich gofal iechyd na wnaeth ddigwydd, gall eich eiriolwr cwynion helpu i ddatrys hyn. 

Dw i’n poeni y bydd gwneud cwyn yn arwain at gael fy nghosbi neu beidio â chael fy nhrin gan feddygon. 

Mae Llais yn dweud: Mae ofni ynghylch gofal iechyd yn y dyfodol yn bryder mae Llais yn clywed amdano’n aml. Mae systemau ar waith i sicrhau nad yw hyn yn digwydd. 

Does gen i ddim fy holl gofnodion meddygol. Ydy hyn o bwys?  

Mae Llais yn dweud: Bydd eich eiriolwr yn gweithio gyda pha bynnag wybodaeth sydd gennych chi. Weithiau, efallai y bydd angen iddyn nhw weld eich cofnodion meddygol neu ofal i’ch helpu chi. Gyda’ch caniatâd chi, gallan nhw ofyn i’r GIG am unrhyw waith papur perthnasol neu gofnodion sydd ganddyn nhw amdanoch chi.  

Bydd eich eiriolwr ond yn edrych ar wybodaeth amdanoch chi os byddwch chi’n rhoi caniatâd iddyn nhw wneud hynny. Byddan nhw’n gofyn i chi lofnodi ffurflen i ddweud eich bod chi’n hapus i hyn ddigwydd.   

Beth os bydd fy nghofnodion meddygol yn peri gofid i fi neu fy mod i’n anghytuno â nhw?   

Mae Llais yn dweud: Mae ein heiriolwyr wedi arfer cefnogi pobl drwy’r hyn a all fod yn broses ofidus, ond maen nhw hefyd yn gallu’ch atgyfeirio chi at eiriolwr iechyd meddwl mwy arbenigol os oes angen neu os hoffech chi.  

Weithiau, mae cofnodion meddygol yn datgelu materion eraill efallai y byddwch chi am wneud cwyn amdanyn nhw. Gall yr eiriolwr Llais eich helpu chi i wneud cwyn am y pethau hynny hefyd. Efallai nad ydych chi’n hapus gyda’r ffordd mae’r GIG wedi ymdrin â’ch cwyn gwreiddiol, felly gall Llais eich helpu chi gyda gwneud cwyn ffurfiol am y broses honno hefyd. 

Hoffwn i wneud cwyn, ond dw i ddim yn siŵr ynghylch enwau a dyddiadau.  

Mae Llais yn dweud: Bydd eich eiriolwr yn canfod cymaint o wybodaeth â phosib ynghylch pwy weloch chi ac ar ba ddyddiadau.  

Mae’r broses ‘Gweithio i Wella’ yng Nghymru yn caniatáu 12 mis i ddechrau cwyn o ddyddiad y profiad, neu o’r adeg sylweddoloch chi ei fod wedi achosi problem i chi, er y gall fod eithriadau i hyn.  

Mae Llais bob amser yn argymell eich bod chi’n dod aton ni, dim ots pryd digwyddodd eich profiad, er mwyn i ni allu rhoi mwy o wybodaeth i chi ynghylch amserlenni eich sefyllfa. 

Dw i’n cael trafferth cyfleu fy mhwynt mewn apwyntiadau  

 Mae Llais yn dweud: Swydd gyntaf eich eiriolwr yw gwrando arnoch chi, ac maen nhw’n deall efallai y byddwch chi dan straen, yn teimlo’n bryderus, ac yn emosiynol am eich profiadau ac am y posibilrwydd o wneud cwyn. Er na allan nhw fynd i apwyntiadau meddygol, gall eich eiriolwr fynd gyda chi i gyfarfodydd am eich cwyn a gallan nhw siarad ar eich rhan os mai dyma yw eich dymuniad. Gallan nhw fynd i gyfarfodydd ar-lein neu wyneb yn wyneb. 

Beth sy’n digwydd os bydd popeth yn mynd yn ormod i fi, neu os bydda i’n mynd yn sâl?  

Mae Llais yn dweud: Lle bo modd, bydd Llais yn sicrhau eich bod chi’n gallu dychwelyd at y mater yn nes ymlaen gyda’r un eiriolwr, fel nad oes angen i chi ail-ddweud eich stori.  Weithiau, gall fod cyfyngiadau amser i wneud cwyn, ond bydd eich eiriolwr Llais yn egluro hyn, ac yn cefnogi eich penderfyniad.  

Mae wir angen gweld arbenigydd endometriosis arna i, ond dywedwyd wrtha i nad ydy hynny’n bosib, gan nad ydw i yn y bwrdd iechyd cywir.  

Mae Llais yn dweud: Gall ein heiriolwyr cwynion eich cefnogi chi i godi pryder ynghylch peidio â chael y gofal iechyd sydd ei angen arnoch chi. Os daw i’r amlwg bod hwn yn fater ehangach, sy’n achosi annhegwch i lawer o gleifion sydd mewn sefyllfa debyg i chi, gallan nhw ddod â’r themâu yma i sylw’r byrddau iechyd a’r llywodraeth. Mae gan fyrddau iechyd ddyletswydd gyfreithiol i ymateb i faterion y mae Llais wedi tynnu eu sylw atynt.  

Weithiau, wrth ddisgrifio problem neu thema gyffredinol, efallai y bydd Llais yn gofyn i gleientiaid a hoffen nhw rannu eu stori’n ddienw. Eich dewis chi yn llwyr fyddai hyn. 

Dw i wedi clywed bod gan fy mwrdd iechyd nyrs endometriosis, ond mae fy meddyg teulu’n dweud nad ydyn nhw’n gwybod dim byd am y peth. Oes rhywbeth gall Llais ei wneud am hyn?  

Mae Llais yn dweud: Gall eiriolwyr cwynion Llais godi pryder ar eich rhan os nad oes modd i chi gael mynediad at wasanaeth iechyd penodol sydd ei angen arnoch chi. Mae modd i Llais weithredu’n fwy cyffredinol hefyd, lle maen nhw’n nodi problem gyda phrosesau’r GIG. Gallan nhw daflu goleuni ar broblemau ehangach fel systemau sy’n ddarniog neu gyfathrebu gwael rhwng gwahanol adrannau’r GIG. 

Dw i’n gweithio i’r adran bwrdd iechyd dw i angen gwneud cwyn yn ei chylch. Beth alla i ei wneud a sut gall Llais helpu? 

Mae Llais yn dweud: Mae ganddon ni brofiad o gefnogi pobl yn y sefyllfa yma. Mae egwyddorion ‘Gweithio i Wella’ yr un mor berthnasol i bawb, a bydd eiriolwyr Llais yn sicrhau eich bod chi’n cael eich cefnogi’n llawn i ddefnyddio’r broses honno yn yr un ffordd ag unrhyw un arall. 

Dysgu mwy, cymryd rhan, a dweud eich dweud 

Ewch i wefan Llais i ddysgu mwy am weithdrefnau safonol Llais gan gynnwys eu canllaw eiriolaeth llaiscymru.org/dweud-eich-dweud/codi-pryder-am-wasanaethau-iechyd-gofal-cymdeithasol 

Rhannwch eich stori gyda Llais gan ddefnyddio ffurflen adborth gyffredinol 5 munud ar eu gwefan https://www.llaiscymru.org/dweud-eich-dweud/rhannwch-eich-stori   

Ewch i un o ddigwyddiadau lleol rheolaidd Llais https://www.llaiscymru.org/cymerwch-ran/digwyddiadau   

Siaradwch â’ch tîm Llais lleol https://www.llaiscymru.org/yn-eich-ardal