• Cymraeg
  • English
  • Deall Endometriosis
  • Diagnosis a Thriniaeth
  • Cymorth Ymarferol
  • Byw gydag…
  • Straeon

Endometriosis a gwaith

Mae gan bawb hawl i weithle sy’n ddiogel ac yn gynhwysol, ond beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy’n byw ag endometriosis?

Poen mislif difrifol yw un o symptomau allweddol endometriosis. Mae symptomau eraill endometriosis, fel poen wrth fynd i’r tŷ bach, hefyd yn gallu gwaethygu yn ystod y mislif. Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw 25% o fenywod yn siarad am y mislif yn y gwaith, ond mae 89% wedi profi pryder a straen yn y gweithle oherwydd eu mislif.

Er mwyn gweld enghraifft o sut mae hyn yn effeithio ar y gweithlu, gallwn edrych ar y GIG. Mae gweithlu’r GIG yng Nghymru yn cynnwys 77% o weithwyr benywaidd, gyda thystiolaeth yn dangos bod gan weithwyr benywaidd gyfraddau salwch uwch na’u cydweithwyr gwrywaidd, yn aml oherwydd ‘mân salwch’, sef sut mae llawer o fenywod yn disgrifio problemau sy’n gysylltiedig â’r mislif. Mae’r data hefyd yn dangos bod gan bobl â chyflyrau iechyd hirdymor gyfradd uwch o absenoldeb salwch, a allai gynnwys cyflyrau fel endometriosis.

Felly, mae’n gwneud synnwyr sicrhau bod gweithleoedd yn meithrin diwylliant lle mae menywod a phobl sy’n cael eu dynodi’n fenyw adeg eu geni yn gallu trafod eu symptomau a’u hanghenion, a hefyd cydweithio â staff i greu gofodau sy’n gallu ateb yr anghenion yma.

Rydym wedi creu fersiwn hawdd ei darllen o’r wybodaeth hon

  • Endometriosis a gwaith (hawdd eu darllen)
  1. Gwybodaeth i weithwyr

    Mae’n bwysig cofio bod gan eich cyflogwr gyfrifoldeb i sicrhau bod eich gweithle’n ddiogel ac yn gynhwysol.​

    Darllen mwy
  2. Gwybodaeth i gyflogwyr

    Mae’n bwysig deall y gall endometriosis amlygu mewn gwahanol ffyrdd i wahanol bobl.

    Darllen mwy
  • Gwybodaeth am Endometriosis Cymru
    • Nyrwyr Endometriosis yng Nghymru
    • Beth sy’n digwydd yng Nghymru
    • Datganiad Cynhwysiant Endometriosis Cymru
  • Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru
    • Gwybodaeth i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol 
    • Teclyn Adrodd am Symptomau Cwestiynau Cyffredin
  • Cwestiynau Cyffredin
    • Cael diagnosis
    • Ffrwythlondeb a beichiogrwydd
    • Diffiniadau a symptomau