Gwybodaeth i gyflogwyr

Mae gan Endometriosis UK Gynllun Cyflogwyr Endometriosis Gyfeillgar sy’n cynorthwyo cyflogwyr i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol i bobl ag endometriosis.

Mae’n bwysig deall y gall endometriosis amlygu mewn gwahanol ffyrdd i wahanol bobl. Efallai y bydd angen cymorth yn ddyddiol ar rai, tra y bydd eraill yn cael cyfnodau hir o deimlo’n iach cyn cyfnodau byr lle maen nhw’n ei chael yn anodd gweithio. Mae llawer o bobl yn gallu ac yn barod i weithio cymaint â phosib, felly mae bod yn hyblyg a deall anghenion staff yn allweddol.

Bydd yr hyn sy’n cyfri fel gweithle cynhwysol yn dibynnu ar waith unigolyn a’u hanghenion penodol, ond dyma gwestiynau i’w hystyried.

  • A oes mynediad at wasanaethau cymorth fel iechyd galwedigaethol?
  • A yw’r rheolwyr yn cwrdd â’u tîm yn rheolaidd i drafod eu llesiant?
  • A oes prosesau ar waith pan fydd rhywun yn datgelu cyflwr iechyd?
  • A fyddai hyfforddiant ymwybyddiaeth endometriosis yn ddefnyddiol? Gallai hyn gyd-fynd â mis ymwybyddiaeth endometriosis ym mis Mawrth.

Ar y man lleiaf, ni ddylai cyflogwr ddefnyddio polisïau sy’n peri mwy o anfantais i unigolyn anabl nag unigolyn heb amhariad. Er enghraifft, ni ddylid cyfri apwyntiadau meddygol sy’n ymwneud ag anabledd yn erbyn rhywun fel absenoldebau ailadroddus, gan arwain at gael eu disgyblu. Mae dal modd cyfri’r absenoldebau nad ydynt yn gysylltiedig â’r amhariad.

Efallai y gwelwch nad yw eich gweithle wedi paratoi ar hyn o bryd i helpu pobl i reoli eu swydd ar yr un pryd â’u symptomau endometriosis. Mae hyn yn broblem sy’n cael ei drafod ledled Prydain. O ganlyniad, mae Sefydliad Safonau Prydain wedi creu canllawiau yn ddiweddar ar ‘Mislif, Iechyd Mislif, a’r Menopos yn y Gweithle’.

Nod y canllaw yw rhoi cyngor ymarferol i gyflogwyr a’u helpu i greu mannau sy’n fwy cefnogol i weithwyr sy’n profi problemau sy’n gysylltiedig â’r cyflyrau yma. Mae’n werth nodi bod endometriosis fel arfer yn cael ei ystyried yn gyflwr iechyd mislif, hyd yn oed os yw’r symptomau’n ehangach na hynny.

Ni fwriedir i’r wybodaeth hon fod yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol ac ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor cyfreithiol ar unrhyw fater penodol. Nid yw’r awdur na GIG Cymru yn derbyn atebolrwydd am gywirdeb cynnwys y wefan hon, nac am y canlyniadau o ddibynnu arni. At hynny, nid yw darparu dolenni at wefannau eraill yn nodi cymeradwyaeth, cefnogaeth na gwarant o gywirdeb y wybodaeth sydd ar y gwefannau hyn.