Pryderon am fy ngofal

Sut i godi pryder am fy ngofal

Weithiau, mae cleifion yn teimlo nad yw’r gofal iechyd maen nhw’n ei dderbyn ar gyfer symptomau endometriosis – neu broblemau eraill – yn foddhaol.  

Os oes gennych chi bryderon am eich gofal neu driniaeth, dylech siarad â’r staff sy’n rhan o’ch gofal cyn gynted â phosib. Dylen nhw geisio datrys eich pryderon ar unwaith.

Ymholiadau, problemau, a rhoi adborth yn eich ysbyty

Mae gan bob ysbyty yng Nghymru
Wasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS)
sy’n gweithio ochr yn ochr â staff yr ysbyty i roi cefnogaeth, arweiniad a chyngor diduedd i gleifion, eu ffrindiau a’u teuluoedd. 

Byddan nhw’n gwrando ar unrhyw bryderon, awgrymiadau, neu ymholiadau sydd gennych, ac yn gweithredu ar yr adborth hwnnw i wneud gwelliannau. Gallai hyn fod yn adborth cadarnhaol neu negyddol, neu gallai fod yn ymholiadau am amseroedd aros neu sut i ddod o hyd i wasanaeth penodol yn yr ysbyty.

Gallwch godi pryderon, awgrymiadau neu ymholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n Saesneg; wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.

Os nad yw hyn o gymorth, neu os nad ydych chi eisiau siarad â’r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth.  

Os yw eich pryder am y gwasanaeth rydych chi wedi’i gael gan feddyg teulu, dylech ofyn i’r feddygfa ymchwilio i’ch pryderon. Os byddai’n well gennych chi, gallwch ofyn i dîm cwynion eich bwrdd neu ymddiriedolaeth iechyd wneud hynny.

Enw’r broses ar gyfer codi pryderon neu gwynion yn GIG Cymru yw Gweithio i Wella.

Codi cwyn drwy dîm cwynion eich bwrdd iechyd

Gallwch godi pryder eich hunan neu ofyn i ofalwr, ffrind, perthynas, neu eiriolwr annibynnol eich cynrychioli. Bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig iddyn nhw wneud hyn.  

Mae eiriolwyr cwynion annibynnol ar gael i bob claf yng Nghymru drwy sefydliad o’r enw Llais. Gallwch ddarllen mwy am Llais a’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig yma.

Er mwyn cysylltu â’r tîm cwynion yn ardal eich bwrdd iechyd, gallwch ymweld â’r dudalen berthnasol ar wefan eich bwrdd iechyd lleol:

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n codi pryder?

Ar ôl i chi godi eich pryder, bydd y tîm cwynion:

  • yn gwrando ar eich pryderon neu geisio eu datrys cyn gynted â phosib
  • yn ymchwilio i’ch pryderon ac yn siarad â’r staff sy’n rhan o’ch gofal neu driniaeth
  • efallai yn cynnig cyfarfod i drafod eich pryderon
  • yn eich rhoi mewn cyswllt â’r person cywir i’ch helpu
  • yn rhoi gwybod i chi beth maen nhw wedi’i ddarganfod a beth maen nhw’n mynd i’w wneud yn ei gylch

Dylai’r tîm cwynion anfon ymateb atoch ymhen 30 diwrnod gwaith o dderbyn eich cwyn. Os na allan nhw anfon ymateb o fewn yr amserlen yma, byddan nhw’n egluro pam ac yn rhoi gwybod i chi pryd dylech ddisgwyl ymateb. Gallai rhai pryderon gymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt.  

Cyfyngiad amser ar godi pryderon neu gwynion

Mae gennych hyd at 12 mis i godi pryder neu gŵyn. Serch hynny, mae’n well siarad gyda rhywun cyn gynted â phosib.

Os oes dros 12 mis wedi bod a bod rhesymau da am yr oedi, efallai y bydd dal modd i’r tîm cwynion ymdrin â’ch pryder neu gŵyn.

Beth i’w wneud os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb y bwrdd

Os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb eich bwrdd iechyd, ac os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, gallwch gysylltu â Llais i gael cyngor ychwanegol.  

Os ydych chi’n dal i fod yn anfodlon gyda chanlyniad eich cwyn, gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol, yn ddiduedd, yn deg ac yn agored i bawb y mae angen y gwasanaeth arnyn nhw. Mae am ddim i’w ddefnyddio.

Un o brif rolau’r Ombwdsmon yw ystyried cwynion am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cwynion am Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru, darparwyr gwasanaeth iechyd, fel meddygon teulu, optegwyr, deintyddion a fferyllwyr, yn ogystal â darparwyr gofal iechyd preifat mewn rhai achosion.

Gall yr Ombwdsmon ymchwilio i gwynion ynghylch pobl yn cael eu trin yn annheg neu pan nad yw sefydliad wedi dilyn y broses gywir. O ran cwynion am ofal iechyd, gallant edrych pa benderfyniadau am y gofal a’r driniaeth oedd yn gywir.  

Mae bron i 4 ym mhob 10 cwyn mae’r Ombwdsmon yn ei derbyn yn ymwneud â gofal iechyd. Mae’r Ombwdsmon yn sicrhau bod eu staff wedi arfer â thrafod materion iechyd personol a phrofiadau cleifion trawmatig ac y byddan nhw’n ymdrin ag unrhyw ymholiadau neu gwynion yn sensitif ac â thosturi.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch pryd gall yr Ombwdsmon ymchwilio i’ch cwyn drwy gysylltu â nhw drwy eu gwefan ombwdsmon.cymru  

Neu ffoniwch 0300 790 0203

Gall yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus gymryd galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.